7

Trychinebau llygru

Nid yw diwydiannau yn trin eu problemau gwastraffu fel y dylen nhw. Efallai nad ydynt yn ymwybodol o ba mor beryglus ydy eu gwastraff. Hefyd, mae cael gwared ar wastraff yn ddrud iawn. Er mwyn datrys y problemau hyn, mae'n rhaid i rai cwmnïau storio eu gwastraff. Y broblem gyda storio gwastraff yw ei fod yn creu ‘PRhA’ yn y dyfodol - problem rhywun arall.

Mae enghreifftiau o’r broblem hon i’w cael yn y rhan fwyaf o wledydd. Mewn gwledydd fel Cymru (GMEDd), gwastraff o hen ddiwydiannau fel cloddio am lo a thun sy’n achosi’r prif beryglon.

Mae gwledydd fel Nigeria (GLlEDd), Brasil a China yn tyfu o ran economi. Mae cyfreithiau amddiffyn yr amgylchedd yn fan hyn yn wan iawn, felly dydy cwmnïau ddim yn meddwl am drin eu problemau gwastraffu fel mater o frys. Oherwydd hyn, maen nhw’n peryglu creu trychineb amgylcheddol lleol neu hyd yn oed un ryngwladol.

undefined

Llygredd o amgylch y byd

Gall gwastraff peryglus fod ar ffurf solid, hylif neu nwy yn yr awyr.

Llygredd afon

Mae ewyn cemegol, gwenwyn anweladwy a chynhyrchion gwastraff organig wedi’i grynhoi sy’n cael eu rhyddhau i afonydd yn medru teithio’n bell o’r man lle rhyddhawyd nhw.

undefined

Llygredd Afon

Llygredd yr aer

Mae cemegau cas sy’n cael eu rhyddhau o simneiau yn cael eu chwythu am filltiroedd gan wyntoedd ac i fyny i’r atmosffer.

undefined

Llygredd Aer

Mae straeon am drychinebau oherwydd gwastraff yn y papurau ac ar y newyddion o hyd. Ond dim ond am ryw ddeuddydd y byddan nhw’n gwneud y penawdau. Erbyn y trydydd diwrnod mae stori newydd i’w dilyn. Ond peidiwch â meddwl bod popeth yn iawn am nad yw’r stori ar y newyddion. Gall broblemau gwastraff achosi problemau iechyd difrifol am genedlaethau.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Hen ffyrdd a ffyrdd newydd o fesur llygredd!

Gall dwr gael ei lygru gan lawer o wahanol sylweddau cemegol neu organig na ddylai fod ynddo. Felly, sut mae mesur faint o lygredd sydd ynddo?

Gall cemegwyr brofi’r dwr a mesur crynodiad y cemegau’n fanwl gywir. Wrth fesur llygredd organig, maen nhw’n mesur faint o ocsigen sy’n cael ei dynnu o’r dwr er mwyn i wastraff organig ddadelfennu. Yr enw ar hyn yw’r GOB (Galw am Ocsigen Biolegol). Gall GOB uchel olygu nad oes digon o ocsigen ar ôl i’r pysgod a’r anifeiliaid eraill o bosibl. Gall ymchwilwyr wirio hefyd pa blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yn y dwr. Mae ambell rywogaeth yn gorfod cael dwr glân iawn i oroesi, felly os ydyn nhw’n bresennol mae hynny’n golygu nad yw’r afon wedi’i llygru. Ar begwn budr y raddfa, mae rhai anifeiliaid, fel mwydod, yn goroesi mewn dwr llygredig. Felly, os dim ond mwydod sydd yn y dwr, yna mae’n rhaid ei fod wedi’i lygru’n wael.

Hefyd, mae’n bosibl darganfod pa mor bell mae carthion yn cael eu cario mewn afonydd ac i’r môr drwy fesur crynodiad hadau tomato mewn mwd a thywod tanddwr. Dydyn ni ddim yn gallu treulio hadau tomato ac felly maen nhw’n llifo o’r toiled drwy’r gweithfeydd trin carthion ac i mewn i ddwr yr afon neu’r môr. Mae hadau tomato yn tyfu’n blanhigion newydd ym maw'r anifeiliaid sy’n eu bwyta! Darganfu hadau tomato yng nghanol Môr y Gogledd!

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ennill y rhyfel ailgylchu!

Ennill y rhyfel ailgylchu!