Gall rheoli gwastraff ac ailgylchu ddigwydd ar unrhyw raddfa - boed yn lleol neu'n fyd-eang. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a chynghorau lleol Cymru yn ein hannog ni i gyd i ddechrau ailgylchu yn y cartref.
Ddoe, dywedodd Mrs Jane Davidson, Gweinidog y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae'r gyfradd ailgylchu yng Nghymru wedi codi'n uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU dros y deng mlynedd diwethaf. Y rheswm pennaf am hyn yw'r gwaith amhrisiadwy mae ein hawdurdodau lleol wedi bod yn ei wneud.”
Rheoli gwastraff ac ailgylchu
Ar 2 Tachwedd 2010, rhoddodd y Cynulliad sêl bendith i darged o 70 y cant ar gyfer y gwastraff a ailgylchir yng Nghymru i'w gyrraedd erbyn 2024/25. Mae'r targed hwn yn golygu mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i osod targed cyfreithiol i'r cynghorau lleol ar gyfer ailgylchu.
“Mae ailgylchu 70 y cant yn gwneud synnwyr economaidd. Mae'n golygu arbed £38 miliwn, rhagor o swyddi, trethi a dirwyon llai ar safleoedd tirlenwi a mwy o gyfleoedd i gynghorau lleol wneud arian o werthu defnyddiau gwerthfawr. Ac mae'n golygu y byddwn ni'n lleihau ein dyled amgylcheddol - ein plant a'u plant nhw fydd yn gorfod wynebu canlyniadau'r niwed rydyn ni'n ei wneud i'n planed nawr.”
Eich byd chi sydd yn y dyfodol, felly mae hi'n werth ailgylchu ac mae hi'n werth annog pobl hi'n i wneud hynny hefyd!
Cyfle gweithgaredd ystafell ddosbarth
Gwnewch restr o'r rhesymau pam yr ydych am i Gymru i gyrraedd y targed o 70%.
Faint fydd eich oed chi yn 2050? Mae'r Llywodraeth yn cynllunio ar gyfer 2050 nawr! Ym mis Mehefin (2010), lansiwyd y strategaeth “Cymru Ddiwastraff erbyn 2050”.
Mae hon yn dweud beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn i Gymru gyrraedd y targed hwn a bod yn genedl sy'n ailgylchu erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
Rhaid i ni leihau ein gwastraff 1.5 y cant bob blwyddyn tan 2050. Rhaid i ni hefyd atal gwastraffu'r defnyddiau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein hôl troed ecolegol (yr effaith rydyn ni'n ei chael ar yr amgylchedd). Dyma'r defnyddiau:
Gwastraff bwyd
Papur a cherdyn
Pren
Metelau
Plastigion
Ailgylchu
I wneud hyn, rhaid trefnu ein sbwriel yn ddefnyddiau i'w hailgylchu ac yn ddefnyddiau na ellir eu hailgylchu.
Bydd hyn yn dda i'n dyfodol oherwydd bydd yn:
Creu mwy o swyddi gwyrdd ac yn cynyddu sgiliau
Helpu Cymru i fod yn fwy cystadleuol
Cael gwared ar y broblem fawr o roi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi ar gyfradd fwyfwy uchel
Cefnogi ein hymdrechion i helpu i ddatblygu'n gynaliadwy a lleihau'r newid yn yr hinsawdd