BBC Video (15 mins)
© British Broadcasting Corporation (BBC)
Yn y rhifyn hwn a’r rhifyn nesaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i leoliad rhai nodweddion peryglus fel daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd.
Llun: Italy relief location map - Eric Gaba/Sting & NordNordWest © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod
Ar Awst 24ain 2016, bu daeargryn yng nghanolbarth yr Eidal.
Yr ardal a gafodd ei tharo oedd y Mynyddoedd Apinaidd, sy’n rhedeg ar hyd canol yr Eidal.
Llun: Epicentre Diagram - Ansate / Sam Hocevar © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 Generic
Llun: Shakemap Earthquake 24 Aug 2016 Italy - United States Geological Survey © Public Domain
Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod
Roedd daeargryn yr Eidal yn mesur 6.2 ar raddfa maintioli’r moment, sy’n mynd o 1 i 9.5; felly, nid oedd yn ddaeargryn cryf.
Fodd bynnag, roedd yn un bas iawn (4km), felly cyrhaeddodd bron holl egni’r daeargryn wyneb y ddaear. Parodd y symudiad yn hir hefyd (dros 20 eiliad), felly parodd yr ysgwyd am amser hir.
Tref Amatrice yn yr Eidal, cyn ac ar ôl y daeargryn yn 2016.
Llun: Amatrice - Corso - Mario1952 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Llun: 2016 Amatrice earthquake - Corso - Leggi il Firenzepost © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Llun: Quake epicenters 1963-98 - NASA, DTAM project team © Public Domain
Edrychwch ar y map uchod, sy’n dangos daeargrynfeydd unigol ar ffurf dotiau bach.
Roedd gwyddonwyr a oedd yn edrych ar y map hwn yn gwybod y byddai daeargryn yn digwydd yn yr Eidal; rydyn ni’n mynd i ddarganfod pam yn yr erthyglau cysylltiol.
Yn y gweithgaredd ‘5 pwysicaf’, rydych chi’n mynd i:
Ymarfer gwneud penderfyniadau
Rydyn ni’n mynd i wneud rhywbeth gwahanol yn y rhifyn hwn a’r rhifyn nesaf, sef gwneud ymarfer gwneud penderfyniadau i beryglon tectonig yn y ddau rifyn.
Dechreuwch eich ymarfer gwneud penderfyniadau drwy wneud y gweithgareddau sydd ar y daflen gweithgareddau A3.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Daeargryn yr Eidal.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).