17

Tywydd Rhyfedd?

Yn 2012, bu tywydd y Deyrnas Unedig y tywydd mwyaf anarferol ac yn anghysurus ers cyn co'.

Un o nodweddion tywydd y DU yw ansefydlogrwydd. Rydyn ni wedi hen arfer cael heulwen un diwrnod a glaw'r diwrnod nesaf. Yn aml iawn, mae cael yr un tywydd am dridiau yn ddigon o reswm i sôn amdano mewn sgwrs, ond, pan fydd yr un amth o dywyd yn parhau am fis mae rhywbeth arbennig (a digalon iawn hyd at ganol mis Gorffennaf eleni) yn digwydd.

undefined

Tywydd y DU yn 2012

Yn dilyn yr oerfel a deimlwyd ledled Prydain ym mis Chwefror, cafwyd tywydd dwl ond sych ym mis Mawrth. Taniodd hynny bryder am sychdwr dros yr haf oedd o'n blaenau. Yna, gwelwyd y mis Ebrill gwlypaf erioed a'r mis Mehefin gwlypaf erioed. Yng nghanol hynny cafwyd cyfnod eithriadol o gynnes yn yr ail ran o fis Mai.

Mae tywydd eithafol megis tymheredd llai na sero, sychdwr, glaw di-baid a thonnau gwres wedi bod yn effeithio gwledydd eraill yn hemisffer y gogledd; yng ngogledd America ac Ewrop.

Ond, cyfnod mis Mehefin a Gorffennaf sydd wedi'n digalonni ni fwyaf; gwelsom ddiwrnodau o law di-ddiwedd. Mewn rhai ardaloedd roedd y glaw yn law trwm iawn a achosodd lifogydd mewn sawl ardal o Brydain.

Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwybod pam bod y newidiadau tywydd hyn yn digwydd. Mae'r rhesymau yn eithaf cymleth, felly bydd y rhan nesaf yn egluro'r rhesymau gam wrth gam.

undefined

Glaw... eto!

Mae Ynysoedd Prydain o dan ffin bwysig yn yr atmosffer, sydd fel arfer yn symud yn araf, yr enw arni yw'r Ffrynt Pegynol. Mae'r ffrynt yn ffurfio llinell donnog o aer oer o'r Arctig sy'n mynd o'r gorllewin i'r dwyrain tua'r gogledd, ac aer cynnes o'r trofannau tua'r de.

Os yw'r Ffrynt Pegynol yn mynd drosom ni, mae'r tywydd yn newid a chaiff tymheredd, glaw, cymylau a sawl agwedd arall o'r tywydd eu heffeithio. Fel arfer, dim ond ychydig o oriau sydd angen ar y ffrynt i'n croesi ni felly mae'r tywydd yn newid llawer ac yn gyflym.

undefined

Jet lif 2012

Os ydych chi erioed wedi gweld lluniau o'r blaned Iau, byddwch chi'n deall bod gwyntoedd yn atmosffer rhai planedau yn cylchdroi o'u hamgylch. Mae 'na rai fel hyn ar y Ddaear, yn yr uwch atmosffer, a'r enw a roddir arnynt yw jet lif. Mae'r jet lif yn cael ei achosi oherwydd cyfuniad o ddau beth: y Ddaear yn troi ar ei hechel a'r gwres o'r atmosffer (ymbelydredd solar). Maen nhw'n ffurfio gerllaw ffiniau o fás aer cyferbyniol ble mae 'na wahaniaeth mawr mewn tymheredd, fel yr ardal begynol a'r aer cynnes ger y cyhydedd.

Mae'r jet lif yn dilyn y ffrynt pegynol ac mae gwyddonwyr yn credu ei fod yn rheoli lleoliad y ffrynt a pha mor aml y mae'n newid lleoliad. Fel arfer mae'r jet lif sydd uwch ein pennau ni yn newid lleoliad yn gyson ac felly'n symud yn ôl a mlaen o'r gogledd i'r de gan roi blas o'r tywydd ar y naill ochr a'r llall i ni.

Felly, beth am y tywydd eleni? Dyma pryd mae'r farn wyddonol am newid hinsawdd yyn brwydro'i ffordd i'r eglurhad.

Mae astudiaethau yn dangos bod cynhesu a'r rhew sy'n toddi yn yr Arctig yn lleihaur'r gwahaniaeth rhwng y ddwy ochr i'r ffrynt pegynol (rhwng aer yr arctig a'r aer trofannol). Mae hyn yn newid trywydd y jet lif a'r systemau tywydd sy'n creu glaw o orllewin i ddwyrain yr hemisffer.

Mae'r jet lif wedi newid mewn amryw o ffyrdd pwysig iawn;

  • Mae'n fwy tonnog nag oedd e, wrth deithio o amgylch y byd maen teithio ymhellach i'r gogledd ac ymhellach i'r de. Oherwydd hynny, maen debyg y byddwn ni'n cael ein dal yng nghanol yr un math o dywydd am amser hirach sy'n golygu bod y newidiadau yn y tywydd yn llai aml.

  • Mae'r gwyntoedd yn y jet lif yn llai pwerus hefyd oherwydd bod y gwahaniaeth tymheredd y naill ochr yn llai. Mae'r tywydd yn symud yn arafach o'r herwydd.

  • Os ydyn ni'n cael ein dal dan y jet lif reit ar y ffrynt pegynol, sy nawr yn newid yn llai aml, yna bydd tywydd y jet lif sef y glaw di-ddiwedd welson ni ym mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni yn aros gyda ni am wythnosau.

Dyma sut oedd y jetlif yn edrych ym mis Mehefin - felly mi welwch chi pam gafon ni gymaint o broblemau!

undefined

Jet lif mis Mehefin 2012

Ond, dydy pethau ddim yn ddrwg i gyd. Pan fydd y jet lif yn symud, mae hi'n bosibl y cawn ni dywydd sefydlog am rai wythnosau. Felly - erbyn y byddwch chi'n darllen hwn mi fyddwch chi'n gwybod a symudodd y jet lif a rhoi gwyliau haf heulog a braf i ni.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae’r cysylltiadau rhwng ein cyflenwad bwyd a’r tywydd ar fin bod o bwys mawr i ni!

Yn ystod adeg y gwyliau, mae’r rhan fwyaf ohonom yn cnoi cil ar tybed faint o dywydd heulog fyddwn ni’n ei gael. Ond, eleni, mae’r tywydd eithafol rydyn ni wedi’i brofi ar fin cael llawer mwy o ddylanwad ar gyflenwad bwyd byd-eang ac ar faint fyddwn ni’n ei dalu am ein bwyd.

Ym Mhrydain, mae cael gwanwyn oer, sychder ac yna mis o lifogydd wedi anfon y tymor tyfu cnydau ar chwal – gymaint felly nes y bydd prisiau cnydau, yn cynnwys cnydau porthi, yn debygol o fod yn ddrud iawn y flwyddyn nesaf oherwydd prinder yn y cyflenwad.

Mae’r tywydd wedi bod yr un mor anghyson i ffermwyr ledled y byd.

  • Mae ardaloedd enfawr o ffermydd gwenith yn Unol Daleithiau America wedi brofi’r sychdwr gwaethaf ers 50 mlynedd. Mae’n debygol y bydd gostyngiad o 12% yn y cynhyrchiant y flwyddyn nesaf.

  • Mae De America nawr yn cynhyrchu nifer enfawr o ffa Soi ac mae sawl rhan o Dde America wedi gweld cyn lleied o law eleni nes eu bod nhw’n disgwyl cynhaeaf gwael. Caiff corn a ffa soi eu defnyddio fel bwyd anifeiliaid ledled y byd, felly os yw’r cynhaeaf yn isel bydd hynny’n gyrru prisiau cig eidion a chynnyrch anifeiliaid eraill yn uwch hefyd.

  • Trawyd ardaloedd tyfu gwenith yn Rwsia gan lifogydd annisgwyl ac mae hi’n bosibl y byddan nhw’n rhoi’r gorau i allforio er mwyn sicrhau bod gan eu marchnadoedd nhw ddigon o yd. O’r herwydd bydd prisiau yn codi o amgylch y byd.

  • Mae China yn prynu llawer iawn ac (yn ôl rhai dadansoddwyr marchnadoedd) yn casglu gormodedd o yd. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n ei storio mewn sypiau mawr fel rhyw fath o yswiriant yn erbyn prinder yd yn y dyfodol. Hefyd mae ‘na alw cynnyddol am gnydau biodanwydd sydd ddim yn fwyd – bydd y ddau duedd yma yn codi pris yd ar gyfer bwyd.

  • Byddwn ni’n gweld prisiau bwyd lleol a rhyngwladol yn cynyddu dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, dim ond rhyw 15% o’n incwm teuluol rydyn ni a gwledydd tebyg yn y Gorllewin yn ei wario ar fwyd.

Mewn gwledydd tlotach, fel y rhai yn Affrica, weithiau bydd angen tua 75% o incwm y teulu i dalu am fwyd, felly bydd unrhyw newid, dim ots pa mor fychan, yn gallu cael effaith fawr ar y bobl yn y gwledydd hyn. Yn y blynyddoedd diweddar (2008-2010) mae prisiau wedi arwain at anghydfod am fwyd a sawl apêl am gymorth i ardaloedd o drychineb newyn. Mae hi’n edrych yn debygol y bydd y rhain yn dod yn fwy cyffredin yn ystod y 12 mis nesaf.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newyddion Arfordirol

Newyddion Arfordirol