17

Newyddion Arfordirol

Mae Cyfryfiad Cenedlaethol poblogaeth y Deyrnas Unedig yn digwydd pob deng mlynedd. Caiff llwyth o wybodaeth am faint poblogaeth y Deyrnas Unedig a'i nodweddion eu casglu a phan cyhoeddir yr adroddiad, bydd ynddi ddigon o fanylion i weld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau yn y boblogaeth ar lefel leol (yr enw a roddir ar hyn yw wardiau ac ardaloedd cyfrifo).

undefined

Poblogaeth y DU

Casglwyd gwybodaeth y cyfrifiad diweddaraf ar Fawrth y 27ain 2011. Cymerodd tan fis Gorffennaf 2012 i adio'r holl ddata, a chyhoeddwyd y crynodebau cyntaf yn fuan ar ôl hynny.

Dyma rai o'r penawdau!

Ni fu poblogaeth y DU erioed mor fawr ag ydyw nawr.

Roedd poblogaeth Lloegr a Chyrmu yn dod i gyfanswm o 56.1 miliwn o bobl. Roedd 53 miliwn yn Lloegr a 3.1 miliwn yng Nghymru.

  • Mae'r cyfanswm hwn, 3.7 miliwn yn uwch na'r cyfrifiad diwethaf yn 2001. Bryd hynny 52.4 miliwn oedd cyfanswm poblogaeth y DU

  • Mae hyn yn gynnydd o 7.1% a hwn hefyd yw'r twf mwyaf ers i Lywodraeth Prydain ddechrau'r cyfrifiad yn 1801.

  • Newid naturiol (y gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau) oedd yn gyfrifol am 52% o'r twf ym mhoblogaeth y DU yn 2012 ac mae hyn wedi bod yn duedd gynyddol drwy gydol y ddegawd.

Ymfudo oedd yn gyfrifol am 48% o'r twf ym mhoblogaeth y DU yn 2010. Roedd nifer yr ymfudwyr a oedd yn dod i mewn i'r DU wedi aros ar lefelau tebyg i'r hyn a welwyd dros y chwe neu saith mlynedd flaenorol.

Pe bai'r twf yn parahu i gynyddu ar y raddfa hon, byddai plentyn 10 mlwydd oed yn 2011 yn byw gyda dros 79 miliwn o ddinasyddion Prydeinig eraill erbyn eu bod nhw'n 50 mlwydd oed. Meddyliwch, beth fydd hyn yn ei olygu i wasanaethau tai, cyhoeddus, trafnidiaeth, ynni a darpariaeth bwyd. Fodd bynnag, mae 'na sawl rheswm pam bod yr amcamgyfrif twf yna'n debygol o fod yn anghywir.

Dyma ambell awgrym:

CYFRADD GENI -

Nifer o fabanod sy'n cael eu geni, fesul pob 1000 o'r boblogaeth, mewn blwyddyn. Pe bai'r gyfradd yn codi, byddai'r boblogaeth newydd yn cynyddu. Os yw'n gostwng, bydd y boblogaeth yn llai.

Ar hyn o bryd, 13 i bob 1000 yw'r gyfradd geni ac mae hwnnw wedi bod yn cynyddu'n gyson.

2011 13.0
2010 13.1
2009 12.9
2008 13.0
2007 12.8
2006 12.5
2005 12.1
2004 12.1
2003 11.8
2002 11.3
2001 11.4

CYFRADD MARWOLAETH - Nifer y marwolaethau ym mhob 1000 o bobl mewn blwyddyn.

Pe bai'r gyfradd yn codi, bydd colled yn y boblogaeth yn gynt. Os yw'n gostwng, bydd y golled yn llai. Yn 2011, gwnaethpwyd y cofnod isaf erioed yn Lloegr a Chymru gyda 6.2 bob 1000 o ddynion a 4.4 i bob 1000 o ferched.

CYFRADD MUDO -(fel arfer caiff mewnfudo ac allfudo eu cyflwyno fel un rhif bob blwyddyn). Trafodir materion ymfudo yn erthygl 2.

Rhowch gynnig ar y cwis isod i benderfynu sut y gall rhai o nodweddion y Deyrnas Unedig effeithio ar y gyfradd enedigaeth, marwoaleth a mudo.

Yn gyntaf, meddyliwch sut y bydd nodweddion cyfoes y DU (yn y bocs cwestiwn) yn gallu dylanwadu ar newid mewn poblogaeth. Gallech chi drafod hyn mewn grwpiau neu fel dosbarth.

Yna, cliciwch ar y bocs neu'r bocsys sydd yn eich barn chi am gael ei effeithio fwyaf gan y nodwedd yma.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Mae hi'n ffaith y gŵyr llawer amdani yn y DU - mae'r boblogaeth yn heneiddio ac mae Cyfrifiad 2011 yn dangos hyn i ni gydag amrywiaeth o fesuriadau:

Ym 1911, 25 oedd yr oed mwyaf cyffredin yn y DU

  • Y rhif mwyaf cyffredin (gwerth y canolrif) yn 2011 i ddynion yw 38.

  • Y rhif mwyaf cyffredin (gwerth y canolrif) yn 2011 i ferched yw 40.

  • Mae'r henoed yn cyfri am fwy o'r boblogaeth nag erioed o'r blaen.

  • Mae 16.4 y cant o'r boblogaeth (un ym mhob chwe pherson) yn 65 mlwydd oed neu'n hŷn

Ers stalwm, roedd cyrraed 90 mlwydd oed yn beth prin iawn ond roedd 'na 430,000 o bobl dros eu 90 yn 2011 sy'n gynnydd mawr ers 2011 (340, 000) ac 1991 (13,000).

Fodd bynnag, mae yna wastad syrpreis yn disgwyl amdanom yn y pegwn arall!

Yn 2011, roedd yna 3.5 miliwm o blant dan 5 mlwydd oed yn Lloegr a Chymru, 406,000 yn fwy na 2011.

Cofiwch, tyfodd y boblogaeth gyfan 7.1% ond roedd y twf mewn plant dan 5 yn 11.6% sy'n newydd da i gydbwysedd hir dymor ein poblogaeth.

Fedrwch chi feddwl am resymau pam bod na gynnydd mwy na'r cyfartaledd wedi bod mewn plant dan 5?

Oeddech chi'n gwybod?

Dechreuodd polisi un plentyn yr llywodraeth Tsieinïaidd ym 1978. Mae bron iawn i bob disgybl ysgol yn y DU yn gwybod am fodolaeth y polisi dadleuol hwn oherwydd ei fod ar ben eithafol y polisïau mae llywodraethau o amgylch y byd yn eu defnyddio i gadw cyfradd geni i lawr neu i’w godi.

Yn anffodus, mae manylion y polisi yn cael ei golli mewn gweithagreddau dosbarth ac mae disgyblion hyn sy’n astudio ar lefel uwch wedi dangos dealltwriaeth fechan iawn o gymhlethdodau’r polisi.

Dyma ychydig mwy o wybodaeth. Mae rhaid cadw mewn cof nad yw cywirdeb y “ffeithiau” a’r ystadegau yn fannwl gywir oherwydd cyfrinachedd y Tsieinïaid a maint y boblogaeth yno.

Manylion ychwanegol i’r polisi,

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn meddwl bod China gyfan yn rhan o’r polisi. Ond, mae llywodraeth China yn dweud mai dim ond 35.9% o’r boblogaeth sydd o dan y cyfyngiad un plentyn. Y rhannau trefol/dinesig yw’r rhain yn bennaf, er hynny nid yw Hong Kong, Macau na thramorwyr yn y wlad yn rhan ohono ychwaith.

  • Mae cyplau sy’n byw mewn ardal wledig, cymeunedau a leiafrifoedd ethnig a rhieni sydd heb frodyr neu chwiorydd eu hunain wedi’u heithrio rhag y polisi. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig, caiff teuluoedd wneud cais am ail-blentyn os yw’r cyntaf anedig yn ferch neu os oes ganddo/ganddi anabledd. Rhaid i’r ail-blentyn gael ei eni 3 neu 4 blynedd ar ôl y cyntaf.

  • Mewn dwy dalaith gyfoethog yn y de, Guangdong a Hainan, mae hawl gan gyplau yn yr ardaloedd gwledig i ddau o blant – dim ots beth yw rhyw’r plentyn cyntaf.

  • Mae’r polisi un plentyn wedi’i ddiddymu mewn ardaloedd lle mae trychinebau’n lladd plant yn y teuluoedd, fel y daeargryn Sichuaidd yn 2008 pan ddymchwelwyd ysgolion a lladd nifer uchel o ddisgyblion.

  • Yn 2010, adolygodd llywodraeth China y polisi a chyhoeddi datganiad a oedd dweud y byddai’n parhau tan o leiaf 2015. Fodd bynnag, yn 2011 bu trafodaeth lywodraethol am ganiatáu i gyplau wneud cais i gael ail-blentyn petai ganddyn nhw reswm da am wneud hynny.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...