17

Ymfudo yn y DU

Y DU yw un o'r gwledydd mwyaf aml-ddiwylliannol yn y byd. Mae hanes Prydain yn dangos cymysgedd hynafol o gyndeidiau Celtaidd, Sgandinafaidd, Anglo-Sacsonaidd, Normanaidd, Iddewig a Gwyddelig. Yn yr 20fed Ganrif yn dilyn y rhyfel, ymunodd ymfudwyr o wledydd Cymanwlad Affrica ac Asia, y Caribî a De Asia a sawl gwlad Ewropeaidd â rhain.

undefined

Mewnfudo

Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae mae “ymfudo” wedi canolbwyntio mwy ar symudiadau cyfreithlon pobl tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd a'r gymysgedd o ymfudwyr cyfreithlon ac anghyfreithlon, o Asia ac Affrica yn bennaf, sy'n chwilio am loches neu am waith, er mwyn dianc rhag tlodi a chaledi eithafol yn eu gwledydd nhw.

Mae rhai o'r rhan wedi bod yn ymfudo dros dro (o dan flwyddyn yn y DU) a rhai yn hir-dymor (dros flwyddyn).

Unwyd yr ymfudo diweddar yn sgil ffraeo rhwng pleidiau gwleidyddol, papurau newydd cymunedol a sefydliadau eithafol am ddylanwadau da a drwg ymfudo, a beth i wneud amdano yn y dyfodol.

undefined

undefined

Yn ystadegau cenedlaethol y DU, mae ymfudwr dros dro yn rhwyun sy'n newid eu wlad breswyl am rhwng 1 a 12 mis.

Data'r cyfrifiad ar gyfer 2010

Cafodd 996,000 o ymfudwyr dros dro fynediad i Loegr a Chymru Gadawodd 2,622,000 o allfudwyr am wledydd tu allan i'r DU.

Felly, mae hyn yn golygu ein bod ni'n colli mwy nag ydan ni'n ennyn.

Beth am edrych ar fanylion ymfudo dros dro...

Mae ymfudwyr dros dro rhwng 16 - 24 mlwydd oed yn cyfri am tua thraean o'r cyfanswm sy'n cyrraedd bob blwyddyn a nhw yw'r grŵp oedran mwyaf cyffredin.

  • Derbyniodd gweithwyr Pwylaidd a oedd yn ymfudo i'r DU lawer iawn o gyhoeddusrwydd.

    Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer yr ymfudwyr dros dro oedd yn cyrraedd o Wlad Pwyl wedi gostwng 137,000 o ganol 2006 i 84,000 yng nghanol 2012.

  • Unol Daleithiau America yw'r ffynhonnell fwyaf cyffreidn nawr; daeth 96,000 o ymfudwyr dros dro o yno rhwng canol 2009 a chanol 2010.

  • Mae gan 17% o ymfudwyr dros dro ddinasyddiaeth Brydeinig

  • Y dyb gyffredinnol y mai dynion yw'r mwyafrif o ymfudwyr dros dro i Loegr a Chymru ond mae'r ystadegau yn dangos bod nifer cyfartal o ddynion a merched

Mae'r graff ymfudo hwn yn dangos i ni pa mor bwysig oedd y gostyngiad yn nifer yr ymfudwyr Pwylaidd i'r cyfanswm ers 2006. Allwch chi awgrymu rhesymau dros y patrymau hyn?

Nawr, beth am edrych ar fanylion ymfudo dros dro

  • Sbaen oedd y wlad ymwelwyd â hi fwyaf cyson rhwng canol 2006 hyd ar ganol 2010. Yng nghanol 2010 ymwelodd 239,000 o ymfudwyr dros dro â Sbaen.

  • Dangosodd nifer yr ymfudwyr dros dro a oedd yn allfudo o Loegr a Chymru duedd gynyddol ers 2004. Yn ddiweddar cynyddodd o 2,554,000 yng nghanol 2009 i 2,622,000 yng nghanol 2010.

  • Allfudodd llai o ferched na dynion (46% i 54%). Ychydig iawn o blant oedd ond roedd y niferoedd yn eithaf cytbwys ar draws pob oedran dros 15 mlwydd oed.

  • Roedd gan y rhan fwyaf o allfudwyr dros dro (69%) ddinasyddiaeth Brydeinig.

undefined

Mae'r tueddiadau hyn yn dangos bod Sbaen yn parhau i fod ymhlith y gyrchfan bwysicaf ymhlith ymfudwyr Prydeinig, er nad yw gwledydd eraill yn bell ar ei hôl hi. Allwch chi awgrymu pam y byddai perswylwyr y DU eisiau ymfudo i'r gwledydd hyn am gyfnodau byr?

Crynodeb o ymfudo hir-dymor

Mae ymfudo hir-dymor yn golygu bod pobl yn symud i wlad arall am gyfnod o flwyddyn neu fwy. Amcangyfrifwyd ffigyrau'r llywodraeth am ymfudo hi-dymor. Maen nhw'n hynod ddadleuol oherwydd bod llawer o bobl yn meddwl eu bod nhw'n anodd i'w mesur a'u bod nhw'n anghywir ac yn amcangyfrif gwir nifer yr ymfudwyr anghyfreithlon yn rhy isel o lawer.

Mewnfudodd 589,000 i'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2010.

Allfudodd 338,000 o'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2010.

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm yr ymfudwyr hir-dymor i'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2011 dros 252,000.

Astudiaeth addysgiadol yw'r prif reswm dros fudo i'r DU (250,00 yn y flwyddyn Medi 2011).

Parha dinasyddion o wledydd nad ydynt yn yr undeb Ewropeaudd i fod y prif grŵp o ymfudwyr i'r DU. Cyrrhaeddod 343,000 o ddinasyddion nad ydynt o'r UE i fyw yn y DU yn y flwyddyn cyn Medi 2011, sy'n 58% o'r holl ymfudwyr.

undefined

Felly, a fydd y ddadl dros ymfudo yn diflannu yn dilyn cyhoeddi'r manylion yma o'r Cyfrifiad? Mae hynny'n anhebygol iawn!

Bydd papurau newydd yn defnyddio penawdau fel hyn:

Cyfanswm ymfudo i Brydain llynedd yn cyrraedd uchafswm hanesyddol, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Efallai bod angen i ni ganfod bod patrwm ymfudo'n newid ynn gyson a nad oes modd dibynnu ar lyfrau neu hyd yn oed data'r flwyddyn ddiwethaf i roi disgrifiad clir i ni o'r hyn sy'n digwydd i ymfudo Prydeinig bob blwyddyn.

Oeddech chi'n gwybod?

Ar hyn o bryd, efallai nad yw Ewrop yn y lle mwyaf atyniadol i fudo iddo a chael swydd ar hyn o bryd. Wedi’r cyfan, mae’r cyfandir mewn argyfwng economaidd. Mae lefelau di-weithrda yn uchel iawn ac mae rhai gwledydd fel Groeg, Yr Eidal a Sbaen angen cefnogaeth ariannol werth biliynau o bunoedd.

On nid felly y gwêl bobl ifanc a thlawd gwledydd sy’n llawn gwrthdaro yn Affrica, neu genedl fel Afghanistan yn ne Asia hynny. Weithiau maen nhw’n fodlon rhoi popeth sydd ganddyn nhw, yn cynnwys eu bywydau, yn y fantol er mwyn ceisio ymfudo’n anghyfreithlon i mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Un ai tua’r Gogledd ar draws y Canoldir neu i’r UE dros y ffin o Dwrci (nid yw yn y UE eto) i Groeg. Unwaith maen nhw yng Ngroeg, eu gobaith nhw yw gallu symud yn haws i’r gwledydd cyfoethocach yn yr UE, fel Yr Almaen neu’r Deyrnas Unedig.

Dyma’r problemau:-

  • Nid yw Twrci yn yr Undeb Ewropeaidd, felly y ffin rhwng Groeg a Thwrci, mewn gwirionedd, yw ffin yr Undeb Ewropeaidd. Unwaith maen nhw o fewn i ffiniau’r UE mae ymfudwyr yn credu y gallen nhw symud i unrhyw wlad UE yn haws. Y ffin yn ardal Evros yw’r prif bwynt mynediad i ymfudwyr o Asia. Yn Ionawr 2012, daeth y grwp mwyaf o i groesi’r ffin i mewn i Groeg o Affganistan, ac yna Pacistan a Bangladesh. Ymfudwyr o ogledd Affrica yw’r ail grwp mwyaf, o Algeria a Morocco gan fwyaf. Dynion yw’r rhan fwyaf ond mae merched â theuluoedd hefyd yn rhan o’r ymfudo.

  • Mae sawl gang a chymunedau di-waith mewn bodolaeth ar y naill ochr i’r ffin a’r llall sy’n fodlon helpu’r ymfudwyr dros y ffin am arian.

  • Ar y ffin ceir peryglon naturiol y môr a’r afon Evros sy’n lladd sawl ymfudwr. Mae mynwentydd yn y ddwy wlad yn dechrau llenwi â chyrff ymfudwyr.

Mae timau o gannoedd o ddynion o wledydd eraill yn yr UE yn rhan o sefydliad o’r enw FRONTEX. Maen nhw wedi atgyfnerthu heddlu Groegaidd mewn rhannau mandyllog o ffin y wlad â Thwrci. Caiff miloedd o ymfudwyr anghyfreithlon eu harestio bob mis yn sgil y drefn hon ond mae llawer iawn yn pasio heb gael eu dal hefyd. Yn yr haf bydd llawer iawn mwy o bobl yn ceisio pasio o’i gymharu â’r gaeaf.Ond mae’r rhai a geisiodd ym misoedd y gaeaf yn aml iawn yn colli bysedd, bodiau traed neu eu bywydau i ewinrhew.

Caiff ymfudwyr sy’ cael eu dal yng Ngroeg eu hanfon i brifddinas Groeg, Athen. Yno, caiff ymfudwyr anghyfreithlon eu dal mewn canolfannau nes bod yr awdurdodau wedi penderfynu sut i’w hanfon nhw’n ôl i wlad eu hunain.Canolfannau sylfaenol iawn sydd yng Ngroeg oherwydd nifer enfawr yr ymfudwyr anghyfreithlon. Felly mae bywyd yn galed i’r ymfudwyr hyn ac nid fel y bywyd newydd fuon nhw’n breuddwydio amdano. Mae Groeg yn profi anhawster mawr yn y llif di-ddiwedd hwn o fudwyr anghyfreithlon. Mae gwlad Groeg yn cwyno nad ydyn nhw’n derbyn digon o gymorth gan weddil yr Undeb Ewropeaidd – sy’n gwrthod caniatau i’r ymfudwyr gael eu pasio ymlaen i’r UE.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newyddion Arfordirol

Newyddion Arfordirol