17

Ymfudo yn y DU

Y DU yw un o'r gwledydd mwyaf aml-ddiwylliannol yn y byd. Mae hanes Prydain yn dangos cymysgedd hynafol o gyndeidiau Celtaidd, Sgandinafaidd, Anglo-Sacsonaidd, Normanaidd, Iddewig a Gwyddelig. Yn yr 20fed Ganrif yn dilyn y rhyfel, ymunodd ymfudwyr o wledydd Cymanwlad Affrica ac Asia, y Caribî a De Asia a sawl gwlad Ewropeaidd â rhain.

undefined

Mewnfudo

Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae mae “ymfudo” wedi canolbwyntio mwy ar symudiadau cyfreithlon pobl tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd a'r gymysgedd o ymfudwyr cyfreithlon ac anghyfreithlon, o Asia ac Affrica yn bennaf, sy'n chwilio am loches neu am waith, er mwyn dianc rhag tlodi a chaledi eithafol yn eu gwledydd nhw.

Mae rhai o'r rhan wedi bod yn ymfudo dros dro (o dan flwyddyn yn y DU) a rhai yn hir-dymor (dros flwyddyn).

Mae gwleidyddion a phobl ar y newyddion yn sôn am ddylanwadau da a drwg ymfudo, a beth i wneud amdano yn y dyfodol yn gyson.

undefined

undefined

Mae ystadegau cenedlaethol y DU yn dweud, mai rhwyun sy'n newid eu wlad breswyl am rhwng 1 a 12 mis yw ymfudwr dros dro.

Data'r cyfrifiad ar gyfer 2010

Cafodd 996,000 o ymfudwyr dros dro fynediad i Loegr a Chymru Gadawodd 2,622,000 o allfudwyr am wledydd tu allan i'r DU.

Felly, mae hyn yn golygu ein bod ni'n colli mwy o bobl nag ydan ni'n ennyn.

Beth am edrych ar fanylion ymfudo dros dro...

Mae ymfudwyr dros dro rhwng 16 - 24 mlwydd oed yn cyfri am tua thraean o'r cyfanswm o bobl sy'n cyrraedd bob blwyddyn a nhw yw'r grŵp oedran mwyaf cyffredin.

  • Derbyniodd gweithwyr Pwylaidd a oedd yn ymfudo i'r DU lawer iawn o gyhoeddusrwydd.

    Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer yr ymfudwyr dros dro a oedd yn cyrraedd o Wlad Pwyl wedi gostwng 137,000 o ganol 2006 i 84,000 yng nghanol 2012.

  • Unol Daleithiau America yw'r ffynhonnell fwyaf cyffreidn nawr; daeth 96,000 o ymfudwyr dros dro o yno rhwng canol 2009 a chanol 2010.

  • Mae gan 17% o ymfudwyr dros dro ddinasyddiaeth Brydeinig

  • Y dyb gyffredinnol yw mai dynion yw'r mwyafrif o ymfudwyr dros dro i Loegr a Chymru ond mae'r ystadegau yn dangos bod nifer cyfartal o ddynion a merched

Mae'r graff ymfudo hwn yn dangos i ni pa mor bwysig oedd y gostyngiad yn nifer yr ymfudwyr Pwylaidd i'r cyfanswm ers 2006. Allwch chi awgrymu rhesymau dros y patrymau hyn?

Nawr, beth am edrych ar fanylion ymfudo dros dro

  • Sbaen oedd y wlad ymwelwyd â hi fwyaf cyson rhwng canol 2006 hyd at ganol 2010. Yng nghanol 2010 ymwelodd 239,000 o ymfudwyr dros dro â Sbaen.

  • Dangosodd nifer yr ymfudwyr dros dro 1-12 mis a oedd yn allfudo o Loegr a Chymru duedd gynyddol ers 2004. Yn ddiweddar cynyddodd o 2,554,000 yng nghanol 2009 i 2,622,000 yng nghanol 2010.

  • Allfudodd llai o ferched na dynion (46% o#i gymharu â 54% o ddynion). Ychydig iawn o blant oedd ond roedd y niferoedd yn eithaf cytbwys ar draws pob oedran dros 15 mlwydd oed.

  • Roedd gan y rhan fwyaf o allfudwyr dros dro (69%) ddinasyddiaeth Brydeinig.

undefined

Mae'r tueddiadau hyn yn dangos bod Sbaen yn parhau i fod ymhlith y gyrchfan bwysicaf ymhlith ymfudwyr Prydeinig, er nad yw cyrchfannau eraill yn bell ar ei hôl hi. Allwch chi awgrymu pam y byddai preswylwyr y DU eirisu ymfudo i'r gwledydd hyn am gyfnodau byr?

Crynodeb o ymfudo hir-dymor

Mae ymfudo hir-dymor yn golygu bod pobl yn symud i wlad arall am gyfnod o flwyddyn neu fwy. Amcangyfrifwyd ffigyrau'r llywodraeth am hyn. Mae'r ffigyrau hefyd yn hynod ddadleuol oherwydd bod llawer o bobl yn meddwl eu bod nhw'n anodd i'w mesur a'u bod nhw'n anghywir ac yn wir amcangyfrif nifer yr ymfudwyr anghyfreithlon yn rhy isel o lawer.

Mewnfudodd 589,000 i'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2010.

Allfudodd 338,000 o'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2010.

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm yr ymfudwyr hir-dymor i'r DU yn y flwyddyn cyn Medi 2011 dros 252,000.

Astudiaeth addysgiadol yw'r prif reswm dros fudo i'r DU (Daeth 250,000 o fyfyrwyr tramor i'r DU yn y flwyddyn i fis Medi 2011).

Parha dinasyddion o wledydd nad ydynt yn yr undeb Ewropeaudd i fod y prif grŵp o ymfudwyr i'r DU. Cyrrhaeddod 343,000 o ddinasyddion nad ydynt o'r UE i fyw yn y DU yn y flwyddyn cyn Medi 2011, sy'n 58% o'r holl ymfudwyr.

undefined

Felly, a fydd y ddadl dros ymfudo yn diflannu yn dilyn cyhoeddi'r manylion yma o'r Cyfrifiad? Mae hynny'n anhebygol iawn!

Bydd papurau newydd yn defnyddio penawdau fel hyn:

Cyfanswm ymfudo i Brydain llynedd yn cyrraedd uchafswm hanesyddol, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Efallai bod angen i ni ganfod bod patrwm ymfudo'n newid yn gyson a nad oes modd dibynnu ar lyfrau neu hyd yn oed data'r flwyddyn ddiwethaf i roi disgrifiad clir i ni o'r hyn sy'n digwydd i ymfudo Prydeinig bob blwyddyn.

 

Oeddech chi'n gwybod?

Ar hyn o bryd, efallai nad yw Ewrop yn y lle mwyaf atyniadol i fudo iddo a chael swydd ar hyn o bryd. Wedi’r cyfan, mae’r cyfandir mewn argyfwng economaidd. Mae lefelau di-weithrda yn uchel iawn ac mae rhai gwledydd fel Groeg, Yr Eidal a Sbaen angen cefnogaeth ariannol werth biliynau o bunoedd.

On nid felly y gwêl bobl ifanc a thlawd gwledydd sy’n llawn gwrthdaro yn Affrica, neu genedl fel Afghanistan yn ne Asia hynny. Weithiau maen nhw’n fodlon rhoi popeth sydd ganddyn nhw, yn cynnwys eu bywydau, yn y fantol er mwyn ceisio ymfudo’n anghyfreithlon i mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Un ai tua’r Gogledd ar draws y Canoldir neu i’r UE dros y ffin o Dwrci (nid yw yn y UE eto) i Groeg. Unwaith maen nhw yng Ngroeg, eu gobaith nhw yw gallu symud yn haws i’r gwledydd cyfoethocach yn yr UE, fel Yr Almaen neu’r Deyrnas Unedig.

Dyma’r problemau:-

  • Nid yw Twrci yn yr Undeb Ewropeaidd, felly y ffin rhwng Groeg a Thwrci, mewn gwirionedd, yw ffin yr Undeb Ewropeaidd. Unwaith maen nhw o fewn i ffiniau’r UE mae ymfudwyr yn credu y gallen nhw symud i unrhyw wlad UE yn haws. Y ffin yn ardal Evros yw’r prif bwynt mynediad i ymfudwyr o Asia. Yn Ionawr 2012, daeth y grwp mwyaf o i groesi’r ffin i mewn i Groeg o Affganistan, ac yna Pacistan a Bangladesh. Ymfudwyr o ogledd Affrica yw’r ail grwp mwyaf, o Algeria a Morocco gan fwyaf. Dynion yw’r rhan fwyaf ond mae merched â theuluoedd hefyd yn rhan o’r ymfudo.

  • Mae sawl gang a chymunedau di-waith mewn bodolaeth ar y naill ochr i’r ffin a’r llall sy’n fodlon helpu’r ymfudwyr dros y ffin am arian.

  • Ar y ffin ceir peryglon naturiol y môr a’r afon Evros sy’n lladd sawl ymfudwr. Mae mynwentydd yn y ddwy wlad yn dechrau llenwi â chyrff ymfudwyr.

Mae timau o gannoedd o ddynion o wledydd eraill yn yr UE yn rhan o sefydliad o’r enw FRONTEX. Maen nhw wedi atgyfnerthu heddlu Groegaidd mewn rhannau mandyllog o ffin y wlad â Thwrci. Caiff miloedd o ymfudwyr anghyfreithlon eu harestio bob mis yn sgil y drefn hon ond mae llawer iawn yn pasio heb gael eu dal hefyd. Yn yr haf bydd llawer iawn mwy o bobl yn ceisio pasio o’i gymharu â’r gaeaf.Ond mae’r rhai a geisiodd ym misoedd y gaeaf yn aml iawn yn colli bysedd, bodiau traed neu eu bywydau i ewinrhew.

Caiff ymfudwyr sy’ cael eu dal yng Ngroeg eu hanfon i brifddinas Groeg, Athen. Yno, caiff ymfudwyr anghyfreithlon eu dal mewn canolfannau nes bod yr awdurdodau wedi penderfynu sut i’w hanfon nhw’n ôl i wlad eu hunain.Canolfannau sylfaenol iawn sydd yng Ngroeg oherwydd nifer enfawr yr ymfudwyr anghyfreithlon. Felly mae bywyd yn galed i’r ymfudwyr hyn ac nid fel y bywyd newydd fuon nhw’n breuddwydio amdano. Mae Groeg yn profi anhawster mawr yn y llif di-ddiwedd hwn o fudwyr anghyfreithlon. Mae gwlad Groeg yn cwyno nad ydyn nhw’n derbyn digon o gymorth gan weddil yr Undeb Ewropeaidd – sy’n gwrthod caniatau i’r mudwyr gael eu pasio ymlaen i’r UE.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newyddion Arfordirol

Newyddion Arfordirol