Grŵp academaidd o rai o'r prifysgolion gorau yng Nghymru yw'r Arsyllfa Wledig; mae wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rôl yw gwneud ymchwil i'r hyn sy'n digwydd yn y Gymru wledig. Mae wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau sy'n dangos gwybodaeth am Gymru gyfan. Gallwch eu defnyddio nhw i dynnu cymhariaeth rhwng y Gymru wledig a'r Gymru drefol. Un peth i'w gadw mewn cof yw Cymoedd De Cymru. Arferant fod yn ardal ddiwydiannol felly dydyn nhw ddim wir yn wledig ond nid yw eu cymeriad hwy yn gyfan gwbl drefol 'chwaith.
Mae'r ardal oddi mewn i'r linell goch yn cael ei hystyried yn wledig; yn eich barn chi, sut y mae incwm cartrefi yn yr ardaloedd gwledig yn cymharu â rhai'r ardaloedd ar goridor yr M4 neu Ogledd Ddwyrain Cymru?
Defnyddiwch atlas i'ch helpu chi ddod o hyd i Benrhyn Llŷn, Powys ac Ynys Môn. Cymharwch yr ardaloedd hyn gyda lleoedd ar arfordir de Cymru, megis Caerdydd neu Fro Morgannwg.
Mae'r map yn dangos bod gan ardaloedd gwledig incwm uchel mewn ardaloedd fel sir Fywny fel y mae gan ardaloedd gwledig eraill incwm isel. Fodd bynnag, gallwn weld bod ardaloedd gwledig mawr yn syrthio i'r categorïau isaf ac mae hynny yn gwthio pobl ifanc allan o'r ardaloedd hyn am nad ydynt yn gallu fforddio safonnau byw boddhaol ar y lefel yma o incwm - yn enwedig prynu tŷ a dechrau teulu.
Cyn darllen mwy, ewch yn ôl i'r erthygl 'Byw yng nghefn gwlad Cymru' a darllenwch y gwahanol farnau ar y map canfyddiad.
Mae gan gefn gwlad Cymru sawl “Notspot” - sef rhywle heb gysylltiad rhyngrwyd na ffôn hyd yn oed. Er hynny, mae'r si sy'n dweud bod gan lai o bobl yn yr ardaloedd gwledig gysylltiad i fand-eang yn chwedl bur! Y gwir amdani yw bod gan fwy o bobl yn y Gymru weldig gysylltiad i wasanaeth band-eang na phobl yn y Gymru drefol. I ddarganfod mwy, darlennwch yr erthygl 'Y Rhaniad Digidol'.
Mae'r darlun 'bosc siocled' o Gymru yn denu llawer iawn o bobl; y bywyd tawel, lefelau trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn is, llai o sŵn a llygredd. Dyma sy'n denu pobl hŷn, yn enwedig rheiny sydd â'r rhyddid hwnnw sy'n dod gyda bod yn berchen ar drafnidiaeth eich hunain. Beth am y plant sy'n teithio dros awr ar fws i fynd i'r ysgol? Neu fferm dymhorol ar incwm isel? Neu weithwyr twristiaeth sydd methu â fforddio car?
Cymru Wledig
Os ydych chi wedi ymddeol mewn ardaloedd trefol, nid rhywle fel Caerdydd yw'r lle gorau i fyw. Does dim angen i chi fod yn agos i'r gwaith, mae traffig, sŵn, llygredd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol i gyd yn broblemau. Os werthwch chi'ch tŷ, gallwch fforddio prynu tŷ braf yn y wlad gydag ychydig o arian dros ben. Mae hi'n ddigon hawdd ymweld â'r ddinas yn eich car os ydych chi eisiau siopa neu aros dros nos mewn gwesty os ydych chi eisiau defnyddio gwasanaethau fel y theatr, er enghraifft.
Cymru Drefol
Ond, os ydych chi'n ieuengach, mae llawer iawn mwy o waith ar gael, tai fforddiadwy a gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas. Ymhen amser, byddwch chi'n medru fforddio car eich hun ac hyd yn oed brynu tŷ eich hun. Yn y pendraw byddwch wedi ennil digon o arian i fyw mewn ardal wledig; os symudoch chi o un i ddechrau yna bydd y cylch yn gyflawn. Tra bod llawer o bobl mewn ardaloedd gwledig yn sôn am y problemau sy'n cael eu hachosi gan wrthdrefoliad, maen nhw'n anghofio mai'r bobl sy'n mudo yno nawr yw'r rhai adawodd rhyw ddeng mlynedd ar hugain neu ddeugain mlynedd yn ôl ac sy nawr yn dychwelyd adref.