16

Cymru a'i Demograffeg

undefined

Demograffeg

Astudiaeth poblogaeth yw demograffeg, ac os disgrifir rhywbeth i fod yn ddemograffig mae ganddo rhywbeth i'w wneud â phoblogaeth. Mae demograffeg yn agwedd bwysig iawn o Ddaearyddiaeth oherwydd bod rhaid i'n llywodraethau ni gynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd, felly maen rhaid iddyn nhw gael gwybod nawr er mwyn gallu paratoi ar gyfer degawdau sydd i ddod.

undefined

Cyfradd geni

Mae poblogaeth yn newid yn naturiol yn sgil newidiadau yn nifer y babanod sy'n cael eu geni (cyfradd geni) a'r bobl sy'n marw (cyfradd marwolaeth). Gall boblogaeth hefyd newid yn sgil mudo (pobl yn symud o un lle i'r llall). Yr enw ar y nifer o bol sy'n byw mewn ardal yw dwysedd poblogaeth.

Os yw unrhyw un o'r termau hyn yn aneglur, cwblhewch y gweithgaredd 'Agweddau Demograffeg' sy'n rhan o'r rhifyn hwn.

Isod, mae taenlen sy'n dangos agweddau allweddol o ddata poblogaeth Cymru ar gfyer 2010.

Ardal Arwynebedd km Dwysedd pob km Poblogaeth
Cymru 20780 144 3006430
Ynys Môn 714 96 68592
Gwynedd 2548 46 119007
Conwy 1130 98 110863
Sir Ddinbych 838 115 96731
Sir Fflint 437 341 149709
Wrecsam 503 265 133559
Powys 5196 25 131313
Ceredigion 1789 43 76938
Sir Benfro 1618 72 117086
Sir Gaerfyrddin 2371 76 180717
Abertawe 378 615 232501
Castell-nedd Port Talbot 442 311 137392
Pen y bont 251 537 134564
Bro Morgannwg 331 377 124976
Caerdydd 140 2430 341054
Rhondda Cynon Taf 424 552 234309
Merthyr Tudfil 111 502 55699
Caerffili 277 624 173124
Blaenau Gwent 109 629 68368
Torfaen 126 717 90533
Sir Fynwy 851 103 88089
Casnewydd 190 742 141306

Dychmygwch eich bod chi'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau fel gofal iechyd neu gasglu sbwriel i Lywodraeth Cymru neu mewn ardal wledig fel Powys ac ardal drefol fel Abertawe. Petaech chi ym Mhowys byddai'n rhaid i chi ddarparu llawer iawn mwy o ran pellter ond mae llawer iawn llai o llai o bobl yn byw yno ac yn talu treth i dalu am y gwasanaeth.

Felly, beth fyddeh chi'n ei wneud?

  • Darparu'r un gwasanaeth yn y ddwy sir ond gwneud i bob person ym Mhowys dalu dwbl am yr un gwasanaeth.

  • Darparu gwasanaeth llawer iawn gwaeth i bobl Powys achos dyna maen nhw'n ei dalu amdano.

  • Cymryd arian gan bob mewn ardaloedd trefol fel Abertawe a'i ddefnyddio i dalu am wasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Powys.

Does 'na neb sydd eisiau talu trethi uwch, rydyn ni'n cwyno'n chwerw am chwarae 'loteri cod post' gyda gwasanaethau fel gofal iechyd ac yn sicr, mae hi'n annheg gofyn i bobl mewn ardaloedd trefol, sydd hefyd wedi'u hamddifadu o fuddion gwledig (fel yr amgylchedd, llai o drosedd, llai o lygru), dalu am wasanaethau i'r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Felly beth fyddech chi'n ei wneud?

Isod, fe welwch daenlen sy'n dangos y cynnydd naturiol ar ymfudo i Gymru rhwng 2009 a 2010.

Ardal Genedigaethau Marwolaethau Newid naturiol Ymfudo Poblogaeth
Cymru 35.258 30.618 4.64 2.471 7.111
Ynys Môn 0.778 0.858 -0.08 -0.096 -0.176
Gwynedd 1.355 1.35 0.005 0.235 0.24
Conwy 1.176 1.444 -0.268 -0.222 -0.49
Sir Ddinbych 1.042 1.117 -0.075 0.074 -0.001
Sir Fflint 1.82 1.403 0.417 -0.631 -0.214
Wrecsam 1.669 1.309 0.36 -0.008 0.352
Powys 1.195 1.431 -0.236 -0.187 -0.423
Ceredigion 0.681 0.746 -0.065 0.603 0.538
Sir Benfro 1.277 1.332 -0.055 -0.284 -0.339
Sir Gaerfyrddin 1.888 2.05 -0.162 0.112 -0.05
Swansea 2.624 2.379 0.245 0.949 1.194
Castell-nedd Port Talbot 1.595 1.541 0.054 -0.087 -0.033
Penybont 1.596 1.328 0.268 0.099 0.367
Bro Morgannwg 1.517 1.201 0.316 0.055 0.371
Caerdydd 4.608 2.663 1.945 2.871 4.816
Rhondda, Cynon, Taf 2.888 2.368 0.52 -0.614 -0.094
Merthyr Tudful 0.692 0.567 0.125 -0.083 0.042
Caerffili 2.174 1.634 0.54 -0.153 0.387
Blaenau Gwent 0.807 0.773 0.034 -0.296 -0.262
Torfaen 1.08 0.905 0.175 -0.362 -0.187
Sir Fynwy 0.827 0.881 -0.054 0.176 0.122
Casnewydd 1.969 1.338 0.631 0.32 0.951

Mae'r gyfradd genedigaeth a marwolaethau uchod yn y miloedd yn hytrach na wedi'u dangos ar raddfa o bob 1000 o'r boblogaeth. Mae'r rhain yn rhoi gwell syniad i chi o faint yn union o fabanod gafodd eu geni o'u cymharu â'r bobl fu farw. Gallwch hefyd weld patrymau mudo.

undefined

Ar y cyfan, gallwch weld bod gan Gymru boblogaeth sy'n cynyddu'n naturiol. Fodd bynnag, nid yw'r patrwm hwn yr un fath ym mhob man; mewn ardal wledig fel Powys yn gweld cyfradd farwolaeth llawer iawn uwch na chyfradd geni. Maen nhw hefyd yn colli llawer o'u poblogaeth yn sgil mudo. Felly, mae pooblogaeth yn cynyddu yn yr ardaloedd trefol ond yn gostwng yn yr ardaloedd gwledig - pam mae hyn yn digwydd yn eich barn chi?

Mudo yw'r prif reswm am hyn. Ar y cyfan mae ffigyrau mudo yn dangos elw neu golled ond dydyn nhw ddim yn dangos llif i'r ddau gyfeiriad - mewn ac allan.

Mae'r ardaloedd gwledig yn dueddol o ddenu pobl hŷn sydd eisiau ymddeol yn y wlad. Yn aml iawn, maen nhw'n gwerthu eu tai yn y dinasoedd ac felly'n gallu prynu eiddo gwledig. Yr enw ar y broses hon yw gwrthdrefoliad.

Mae hyn yn cael dwy effaith:

  1. Ni fydd y genhedlaeth hŷn yn cael babanod, ond maen nhw'n fwy tebygol o farw felly mae hyn yn newid y ffigyrau cynnydd naturiol i ostyngiad naturiol.

  2. Maen nhw'n cael efaith ar brisiau tai sy'n golygu mai tenau iawn yw'r posibilrwydd i bobl ifanc leol gael lle addas i fyw. Yn aml iawn, bydd gwaith mewn ardaloedd gwledig yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth neu dwristiaeth ac yn aml iawn, cyflog isel sydd i'w gael a gwaith tymhorol ydyw. Mae pobl ifanc yn y wlad yn ei gweld hi'n amhosibl dod o hyd o le i fyw pan fyddan nhw'n dechrau teulu ac felly yn teimlo'r angen i fudo i ardaloedd trefol.

Yn aml iawn, yr enw a roddir ar fudo o ardaloedd gwledig i rai trefol yw trefoliad.

Fel arfer, caiff poblogaeth lle ei ddangos yn defnyddio graff arbennig a elwir y pyramid poblogaeth sy'n dangos nifer y boblogaeth wrywaidd a benywaidd yn y gwahanol grwpiau oedran. Fel y gwelwch isod, yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys mae 'na lawer mwy o bobl hŷn a llawer llai o bobl ifanc o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae hyn enwedig yn wir mewn yn y grŵp oed 20 - 35. Mae hyn yn arwyddocoal oherwydd dyma'r oedran sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o enedigaethau. Beth mae hyn yn ei olyfgu ar gyfer y dyfodol yn eich barn chi?

undefined

Cymharwch hwn gyda phyramid poblogaeth Caerdydd a'r Fro.

undefined

Yng Nghaerdydd, mae strwythur y boblogaeth bron gwbl i'r gwrthwyneb gyda llai o bobl hŵn na gweddill Cymru ar gyfartaledd a llawer iawn mwy o bobl rhwng 20 a 35 mlwydd oed. Mae hyn yn golygu fel cyfran o'r boblogaeth mae llawer mwy o bobl yn yr oedran gweithio yn gweithio yn yr ardal drefol hon felly mi fyddan nhw'n cyfrannu mwy o ran trethi. Ond mae eu hanghenion gofal iechyd nhw yn llawer is na rhai pobl hŷn. Hefyd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o gael plant yn y dyfodol ac felly mae'r boblogaeth yma yn debygol o gynyddu.

Gweithgaredd

Ymarfer Gwneud Penderfyniad

Fel Daearyddwywr, gofwynnwyd i chi roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion poblogaeth yng Nghymru a chynnig cyngor am bolisïau'r dyfodol. Gan weithio mewn grwpiau bychain; dyfeisiwch gyflwyniad PowerPoint ac ysgrifennwch sgript i gyflwyno'ch syniadau i weddill y dosbarth. Defnyddiwch daenlenni'r erthygl hon i wneud graffiau eich hunain ac i lunio'r materion 'rydych chi'n eu canfod.

 

Am ragor o wybodaeth defnyddiwch ddata oddi ar wefan statswales drwy glicio ar y linc isod:

Dolenni cysylltiedig

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Trefoliad a Gwrthdrefoliad

Trefoliad a Gwrthdrefoliad