16

Newid Demograffeg

Golyga “poblogaeth” y cyfanswm o bobl sy'n byw mewn lleoliad penodol (fodd bynnag, gallwn edrych ar boblogaethau eraill, arwahan i bobl, megis y gwahanol rywogaethau o adar mewn Parc Cenedlaethol). Er mwyn deall poblogaeth, rhaid i ni edrych ar effeithiau genedigaethau, marwolaethau a mudo.

Fel arfer, mesurir genedigaethau yn ôl cyfradd geni. Dyma'r nifer o enedigaethau pob blwyddyn fesul pob 1000 o'r boblogaeth ar y cyfan - fel arfer cofnodir hyn fel a ganlyn, genedigaethau/00 - e.e. 90/00. Mae hyn yn wahanol i ganran (neu bob 100, sy'n cael ei gofnodi %).

Mesurir marwolaethau'n defnyddio'r gyfradd marwolaeth. Dyma'r nifer o farwolaethau bob blwyddyn fesul pob 1000 o'r boblogaeth. Caiff hyn ei gofodi fel hyn, fel arfer; marwolaethau/00, er enghraifft 9 0/00.

Yr enw a roddir ar y gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau yw Cynnydd Naturiol; fe'i gyfrifir drwy dynnu gwerth y gyfradd marwolaeth o werth y gyfradd geni. Hyd yn oed os nad oes cynnydd, caiff ei alw'n Gynnydd Naturiol yr un fath, ond caiff ei ysgrifennu fel rhif minws (-0.5) a hynny fesul 1000 o'r boblogaeth.

Dwysedd Poblogaeth

undefined

Mae dwysedd poblogaeth yn edrych ar y nifer o bobl sy'n byw mewn ardal benodol. Fel arfer , caiff ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm y boblogaeth gyda'r arwynebedd mewn km2.

Nid yw dwysedd poblogaeth yn dweud wrthym os yw ardal yn rhy boblog. Caiff ardaloedd sydd â dwysedd poblogaeth isel weithiau eu disgrifio fel rhai gwasgaredig; er hynny, mae hi dal yn bosib bod ganddyn nhw ormod o bobl.

undefined

Poblogaeth Wasgaredig

Bydd Daearyddwyr yn edrych ar y nifer o bobl yn yr ardal ac ansawdd bywyd y bobl hynny a'r effeithiau amgylcheddol. Yr enw a roddir ar y cyfuniad o'r cyfanswm o bobl fyddai'n cael yr ansawd bywyd gorau a defnydd cynaliadwy o'r amgylchedd yw poblogaeth optimwm. Os oes 'na ormod o bobl fe'i elwir yn or-boblogaeth ac os oes llai fe'i elwir yn dan-boblogaeth. Mae diweithdra yn arwydd eglur o orboblogi mewn llawer o ardaloedd â dwysedd poblogaeth isel yng Nghymru. Mae hynny'n enwedig yn wir yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd llai o waith ar gael yn y diwydiant amaeth a thwristiaeth.

Mudo yw'r enw a roddir ar symudiad pobl o un lle i'r llall. Pan fyddwn ni'n defnyddio'r term wrth sôn am boblogaeth, rydyn ni'n edrych ar gyfnod hir, (o leiaf 6 mis, ond fel arfer sawl blwyddyn) neu symud parhaol.

Mae sawl ffordd o ddosbarthu mudo:

Mudo angenrheidiol neu orfodol - mae hyn yn digwydd pan does gan bobl ddim dewis ond symud.

  • Yr enw ar fudwyr sy'n gorfod symud i wlad arall yw ffoaduriaid.

  • Rhesymau ffisegol megis daeargrynfeydd, llifogydd neu sychder.

  • Rhesymau dynol fel rhyfel neu erledigaeth.

Mudo gwirfoddol yw pan fydd y mudwr yn penderfynu symud.

Pan fydd rhywun yn mudo bydd ffactorau sy'n tynnu ac yn gwithio yn dylanwadu ar y penderfyniad.

Ffactorau gwthio yw'r pethau drwg am le mae mudwr yn byw. Efallai nad oes gwaith, ychydig o wasanaethau a safon weddol isel o fyw.

undefined

Ffactorau sy'n gwthio

Ffactorau tynnu yw'r pethau da am y lle maen nhw' symud iddo. Efallai bod y lleoliad yn nes at berthnasau, yn cynnig gwell addysg neu mewn gwell hinsawdd.

undefined

Ffactorau sy'n tynnu

Yn fyd-eang trefoliad yw'r math mwyaf o fudo. Dyma pan fydd pobl yn symud o ardaloedd gwledig i rai trefol. Mae hon yn broses enfawr yn y GLlEDd ond mae hefyd yn bwysig yn y GMEDd fel Cymru, lle mae pobl yn mudo o ardaloedd gwledig fel Powys i ardaloedd trefol fel Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth am fudo rhyngwladol, darllennwch yr erthygl 'Ethnigrwydd Cymraeg'

http://www.ngfl-cymru.org.uk/geographyinthenews/Contents/?itemID=11&keyStage=3

Dolenni cysylltiedig

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

 

 

Gweithgaredd i'r Disgyblion

Ar ôl gwneud y cwis, dylech chi drio cwblhau'r cyflwyniad Ymarfer Gwneud Penderfyniad. Sicrhewch eich bod chi'n defnyddio'r termau daearyddol 'rydych chi wedi'u dysgu.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Trefoliad a Gwrthdrefoliad

Trefoliad a Gwrthdrefoliad

Cymru a'i Demograffeg

Cymru a'i Demograffeg