Demograffeg
Astudiaeth poblogaeth yw demograffeg, ac os disgrifir rhywbeth i fod yn ddemograffig mae ganddo rhywbeth i'w wneud â phoblogaeth. Mae demograffeg yn agwedd bwysig iawn o Ddaearyddiaeth oherwydd bod rhaid i'n llywodraethau ni gynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd, felly maen rhaid iddyn nhw gael gwybod nawr er mwyn gallu paratoi ar gyfer degawdau sydd i ddod.
Cyfradd geni
Mae poblogaeth yn newid yn naturiol yn sgil newidiadau yn nifer y babanod sy'n cael eu geni (cyfradd geni) a'r bobl sy'n marw (cyfradd marwolaeth). Gall boblogaeth hefyd newid yn sgil mudo (pobl yn symud o un lle i'r llall). Yr enw ar y nifer o bol sy'n byw mewn ardal yw dwysedd poblogaeth.
Os yw unrhyw un o'r termau hyn yn aneglur, cwblhewch y gweithgaredd 'Agweddau Demograffeg' sy'n rhan o'r rhifyn hwn.
Isod, mae taenlen sy'n dangos agweddau allweddol o ddata poblogaeth Cymru ar gfyer 2010.
Ardal | Arwynebedd km | Dwysedd pob km | Poblogaeth |
Cymru | 20780 | 144 | 3006430 |
Ynys Môn | 714 | 96 | 68592 |
Gwynedd | 2548 | 46 | 119007 |
Conwy | 1130 | 98 | 110863 |
Sir Ddinbych | 838 | 115 | 96731 |
Sir Fflint | 437 | 341 | 149709 |
Wrecsam | 503 | 265 | 133559 |
Powys | 5196 | 25 | 131313 |
Ceredigion | 1789 | 43 | 76938 |
Sir Benfro | 1618 | 72 | 117086 |
Sir Gaerfyrddin | 2371 | 76 | 180717 |
Abertawe | 378 | 615 | 232501 |
Castell-nedd Port Talbot | 442 | 311 | 137392 |
Pen y bont | 251 | 537 | 134564 |
Bro Morgannwg | 331 | 377 | 124976 |
Caerdydd | 140 | 2430 | 341054 |
Rhondda Cynon Taf | 424 | 552 | 234309 |
Merthyr Tudfil | 111 | 502 | 55699 |
Caerffili | 277 | 624 | 173124 |
Blaenau Gwent | 109 | 629 | 68368 |
Torfaen | 126 | 717 | 90533 |
Sir Fynwy | 851 | 103 | 88089 |
Casnewydd | 190 | 742 | 141306 |
Dychmygwch eich bod chi'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau fel gofal iechyd neu gasglu sbwriel i Lywodraeth Cymru neu mewn ardal wledig fel Powys ac ardal drefol fel Abertawe. Petaech chi ym Mhowys byddai'n rhaid i chi ddarparu llawer iawn mwy o ran pellter ond mae llawer iawn llai o llai o bobl yn byw yno ac yn talu treth i dalu am y gwasanaeth.
Felly, beth fyddeh chi'n ei wneud?
Darparu'r un gwasanaeth yn y ddwy sir ond gwneud i bob person ym Mhowys dalu dwbl am yr un gwasanaeth.
Darparu gwasanaeth llawer iawn gwaeth i bobl Powys achos dyna maen nhw'n ei dalu amdano.
Cymryd arian gan bob mewn ardaloedd trefol fel Abertawe a'i ddefnyddio i dalu am wasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Powys.
Does 'na neb sydd eisiau talu trethi uwch, rydyn ni'n cwyno'n chwerw am chwarae 'loteri cod post' gyda gwasanaethau fel gofal iechyd ac yn sicr, mae hi'n annheg gofyn i bobl mewn ardaloedd trefol, sydd hefyd wedi'u hamddifadu o fuddion gwledig (fel yr amgylchedd, llai o drosedd, llai o lygru), dalu am wasanaethau i'r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig.
Felly beth fyddech chi'n ei wneud?
Isod, fe welwch daenlen sy'n dangos y cynnydd naturiol ar ymfudo i Gymru rhwng 2009 a 2010.
Ardal | Genedigaethau | Marwolaethau | Newid naturiol | Ymfudo | Poblogaeth |
Cymru | 35.258 | 30.618 | 4.64 | 2.471 | 7.111 |
Ynys Môn | 0.778 | 0.858 | -0.08 | -0.096 | -0.176 |
Gwynedd | 1.355 | 1.35 | 0.005 | 0.235 | 0.24 |
Conwy | 1.176 | 1.444 | -0.268 | -0.222 | -0.49 |
Sir Ddinbych | 1.042 | 1.117 | -0.075 | 0.074 | -0.001 |
Sir Fflint | 1.82 | 1.403 | 0.417 | -0.631 | -0.214 |
Wrecsam | 1.669 | 1.309 | 0.36 | -0.008 | 0.352 |
Powys | 1.195 | 1.431 | -0.236 | -0.187 | -0.423 |
Ceredigion | 0.681 | 0.746 | -0.065 | 0.603 | 0.538 |
Sir Benfro | 1.277 | 1.332 | -0.055 | -0.284 | -0.339 |
Sir Gaerfyrddin | 1.888 | 2.05 | -0.162 | 0.112 | -0.05 |
Swansea | 2.624 | 2.379 | 0.245 | 0.949 | 1.194 |
Castell-nedd Port Talbot | 1.595 | 1.541 | 0.054 | -0.087 | -0.033 |
Penybont | 1.596 | 1.328 | 0.268 | 0.099 | 0.367 |
Bro Morgannwg | 1.517 | 1.201 | 0.316 | 0.055 | 0.371 |
Caerdydd | 4.608 | 2.663 | 1.945 | 2.871 | 4.816 |
Rhondda, Cynon, Taf | 2.888 | 2.368 | 0.52 | -0.614 | -0.094 |
Merthyr Tudful | 0.692 | 0.567 | 0.125 | -0.083 | 0.042 |
Caerffili | 2.174 | 1.634 | 0.54 | -0.153 | 0.387 |
Blaenau Gwent | 0.807 | 0.773 | 0.034 | -0.296 | -0.262 |
Torfaen | 1.08 | 0.905 | 0.175 | -0.362 | -0.187 |
Sir Fynwy | 0.827 | 0.881 | -0.054 | 0.176 | 0.122 |
Casnewydd | 1.969 | 1.338 | 0.631 | 0.32 | 0.951 |
Mae'r gyfradd genedigaeth a marwolaethau uchod yn y miloedd yn hytrach na wedi'u dangos ar raddfa o bob 1000 o'r boblogaeth. Mae'r rhain yn rhoi gwell syniad i chi o faint yn union o fabanod gafodd eu geni o'u cymharu â'r bobl fu farw. Gallwch hefyd weld patrymau mudo.
Ar y cyfan, gallwch weld bod gan Gymru boblogaeth sy'n cynyddu'n naturiol. Fodd bynnag, nid yw'r patrwm hwn yr un fath ym mhob man; mewn ardal wledig fel Powys yn gweld cyfradd farwolaeth llawer iawn uwch na chyfradd geni. Maen nhw hefyd yn colli llawer o'u poblogaeth yn sgil mudo. Felly, mae pooblogaeth yn cynyddu yn yr ardaloedd trefol ond yn gostwng yn yr ardaloedd gwledig - pam mae hyn yn digwydd yn eich barn chi?
Mudo yw'r prif reswm am hyn. Ar y cyfan mae ffigyrau mudo yn dangos elw neu golled ond dydyn nhw ddim yn dangos llif i'r ddau gyfeiriad - mewn ac allan.
Mae'r ardaloedd gwledig yn dueddol o ddenu pobl hŷn sydd eisiau ymddeol yn y wlad. Yn aml iawn, maen nhw'n gwerthu eu tai yn y dinasoedd ac felly'n gallu prynu eiddo gwledig. Yr enw ar y broses hon yw gwrthdrefoliad.
Mae hyn yn cael dwy effaith:
Ni fydd y genhedlaeth hŷn yn cael babanod, ond maen nhw'n fwy tebygol o farw felly mae hyn yn newid y ffigyrau cynnydd naturiol i ostyngiad naturiol.
Maen nhw'n cael efaith ar brisiau tai sy'n golygu mai tenau iawn yw'r posibilrwydd i bobl ifanc leol gael lle addas i fyw. Yn aml iawn, bydd gwaith mewn ardaloedd gwledig yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth neu dwristiaeth ac yn aml iawn, cyflog isel sydd i'w gael a gwaith tymhorol ydyw. Mae pobl ifanc yn y wlad yn ei gweld hi'n amhosibl dod o hyd o le i fyw pan fyddan nhw'n dechrau teulu ac felly yn teimlo'r angen i fudo i ardaloedd trefol.
Yn aml iawn, yr enw a roddir ar fudo o ardaloedd gwledig i rai trefol yw trefoliad.
Fel arfer, caiff poblogaeth lle ei ddangos yn defnyddio graff arbennig a elwir y pyramid poblogaeth sy'n dangos nifer y boblogaeth wrywaidd a benywaidd yn y gwahanol grwpiau oedran. Fel y gwelwch isod, yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys mae 'na lawer mwy o bobl hŷn a llawer llai o bobl ifanc o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae hyn enwedig yn wir mewn yn y grŵp oed 20 - 35. Mae hyn yn arwyddocoal oherwydd dyma'r oedran sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o enedigaethau. Beth mae hyn yn ei olyfgu ar gyfer y dyfodol yn eich barn chi?
Cymharwch hwn gyda phyramid poblogaeth Caerdydd a'r Fro.
Yng Nghaerdydd, mae strwythur y boblogaeth bron gwbl i'r gwrthwyneb gyda llai o bobl hŷn na gweddill Cymru ar gyfartaledd a llawer iawn mwy o bobl rhwng 20 a 35 mlwydd oed. Mae hyn yn golygu fel cyfran o'r boblogaeth mae llawer mwy o bobl yn yr oedran gweithio yn gweithio yn yr ardal drefol hon felly mi fyddan nhw'n cyfrannu mwy o ran trethi. Ond mae eu hanghenion gofal iechyd nhw yn llawer is na rhai pobl hŷn. Hefyd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o gael plant yn y dyfodol ac felly mae'r boblogaeth yma yn debygol o gynyddu.