15

Sialau Olew

undefined

Rydyn ni gyd yn defnyddio olew a nwy naturiol

'Ry'n ni gyd yn defnyddio olew a nwy naturiol.

Gwyddwn fod ein systemau trafnidiaeth ni, ein diwydiannau masnachol a'n ynni ni gartref yn dibynnu ar ffynonellau ynni carbon yn bennaf.

Dywedwyd wrthym fod y defnydd o olew a nwy o gwmpas y byd yn cynyddu, yn rhannol, oherwydd y cynnydd yn y galw amdano mewn economïau newydd yn Asia, De America ac Affrica.

Dywedwyd wrthym hefyd bod y cronfeydd olew, sydd, hyd yma, wedi'u casglu drwy ddrilio ffynnon olew, yn gostwng yn gyflym. Mae'r galw nawr yn fwy na'r cyflenwad ac mae hyn yn golygu ein bod ni wedi pasio'r foment a elwir yn 'Olew Brig'. O hyn ymlaen, bydd rhaid i ni gynllunio i fyw mewn byd gyda chyflenwad olew lleihaol tra bod pris olew yn cynyddu. Dyma pam mae'r Deyrnas Unedig yn buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy amgen fel pŵer gwynt a solar.

undefined

Graff olew brig Hubbert yn dangos brig cynhyrchiant olew y byd

Yn ddiweddar, bu llawer o drafod am p'run ai yw'r 'Olew Brig'wedi'i gyrraedd neu ddim. Mae hynny oherwydd bod diwydiannau archwilio olew a nwy wedi bod yn brysur iawn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o'u hechdynnu o'r creigiau dan y ddaear.

Efallai bod hyn yn swnio fel newyddion gwych. Gall ein bywydau tanwydd carbon hen ffasiwn ni barhau am dipyn mwy!

Ond cyn i ni ddathlu, beth allai hyn ei wneud i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a rheoli'r newid mewn hinsawdd?

Yn gyntaf - terminoleg newydd a phwysig!

Siâl Olew a Cherogen - Cerrig gwaddodol â gronynnau mân yw Sialau Olew sy'n llawn deunydd organig olewog o'r enw “cerogen”..

Ffracio (neu Hydroffracio) - Dull newydd o echdynnu olew a nwy yw hyn ble mae hylifau poeth, dan bwysau uchel yn cael eu chwistrellu i greigiau dan y ddaear. Mae'r siâl olew yn cynhesu er mwyn gwahanu'r cerogen oddi wrth y graig. Caiff yr hylif sy'n dod o hynny wedyn ei drawsnewid i danwydd jet ansawdd uchel, tanwydd disel, cerosin a chynnyrch gwerthfawr eraill.

Mae'r dull hwn yn well i'r amgylchedd oherwydd nid oes cloddio, nid oes gwastraff ar wyneb y ddaear nac o dan y ddaear.

undefined

Diagram ffracio hydrolig ar gyfer nwy siâl

Mae hi'n bosib iawn bod cronfeydd anferth o nwyon naturiol mewn haenau o siâl dan arfordir isel Swydd Gaerhirfryn (Lancashire) yng ngogledd orllewin Lloegr.

Cynhaliwyd profion yn ystod gwanwyn a haf 2011 i weld p'un ai byddai'r dechneg o Ffracio yn gweithio. Driliodd cwmni archwilio o'r enw Cuadrilla Resources 2 ffynnon ffracio ger Blackpool.

Fodd bynnag, trawyd arfordir Blackpool gan ddaeargryn maint 2.3 ar y raddfa Richter ar Ebrill y 1af. Dilynwyd honno gan ail ddaeargryn maint 1.4 ar Fai'r 27ain. Dydy daeargrynfeydd Grym 2 ddim wir yn cael eu teimlo gan bobl ac er efallai y teimlir rhai Gradd 3, dydyn nhw ddim yn achosi unrhyw ddifrod (meddyliwch am furmur lori wrth iddi ruthro heibio). Yn dilyn yr Arolwg Daearegol Prydeinig, lleolwyd uwchganolbwynt y cryndod rhyw 500m oddi wrth y ffynnon ffracio ac o'r herwydd daethpwyd â'r profion i ben. Coelia'r cwmni i'r digwyddiadau fod yn rhai eithriadol a daeargryn maint 3 yw'r achos gwaethaf allai ddigwydd oherwydd ffracio.

Yng Nghymru, mae nwy naturiol (methan) wedi'i ddarganfod yn yr un creigiau â semau glo erioed.

Mae gan sawl rhan o dde a gogledd ddwyrain Cymru semau glo lle mae glo i'w gael o hyd, oherwydd dim ond rhywfaint o'r glo sydd wedi'i gloddio yno. Mae'r gweddill dal o dan y ddaear ond yn llawer iawn rhy ddrud, rhy beryglu a rhy ddwfn i'w gloddio (dros 500m).

Mae techneg debyg i ffracio wedi'i chynllunio ar gyfer yr ardaloedd hyn hefyd. Yr enw a roddir arni yw Nwyeiddio Glo Tanddaearol (UCG - Underground Coal Gasification). Gellir dod â nwy i'r arwyneb yn defnyddio'r dechneg hon, ac yna gellir ei losgi i gynhyrchu trydan neu ei droi'n danwydd hylif fel disel.

undefined

Y broses o nwyeiddio glo dan y ddaear

Yn ôl y cwmni cynhyrchu, dim ond traean o'r pris arferol i gloddio glo y mae'r dechneg hon yn ei gostio.

Mae projectau Nwyeiddio Glo Tanddaearol eisoes ar gamau arbrofol yn China, India, De Affrica ac Awstralia.

Mae'r Awdurdod Glo yn y DU wedi codi trwydded i gwmni o'r enw Clean Coal. Bydd y cwmni'n dechrau profi 77km sgwâr ym mae Abertawe i weld os yw'n addas ar gyfer NGT.

Mae'r map hwn yn dangos bod glo addas i'w gael o amgylch bae Abertawe. Mae o hefyd o dan y môr ac ar hyd y bae.

Byddai tynnu'r nwy yn fan hyn yn creu llai o lygredd ar yr arwyneb ac mi fyddai'n llai peryglus na chloddi arferol. Byddai'r orsaf bŵer y mae'r cwmni'n gobeithio ei hadeiladu yn cynhyrchu bron digon o drydan i gyflenwi Abertawe gyfan, dinas o dros 230,000 o bobl.

Ydy Ffracio yn syniad da i'r DU?

undefined

 

 

Edrychwch ar y bobl a'r grwpiau isod. Yn eich barn chi fydden nhw'n dadlau o blaid neu yn erbyn? Pam?

  • Cyngor Dinas Abertawe

  • Cyfeillion y Ddaear

  • Plant ysgol lleol

  • Llywodraeth Cymru

  • Llywodraeth Prydain (San Steffan)

  • Cynhyrchwyr a chyflenwyr paneli solar

  • Eich dosbarth

  • Ti dy hun

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Iran yn y Newyddion?

Iran yn y Newyddion?