15

Llongau Mordaith

undefined

Mae gwyliau ar y môr yn rhan o ddaearyddiaeth fyd-eang erbyn hyn a maen nhw'n gwneud ceiniog neu ddwy hefyd!

Yn ddiweddar mae gwyliau ar longau mordaith wedi dod yn rhan o ddaearyddiaeth fyd-eang ac maen fusnes mawr hefyd!

Mae hi'n anodd amcangyfrif nifer y llongau mordaith hyn ar raddfa fyd-eang oherwydd bod sawl un yn amrywio o ran maint a lleoliad. Mae 'na rai bychain ar afonydd fel y Nîl, y Rhein a'r Danwy. Byddai amcangyfrif o tua 300 o longau ar y môr a miloedd o rai llai ar afonydd.

'Roedd yr hen fathau o longau mordaith, neu 'liners' yn gulach eu siâp ac yn debycach i longau er mwyn croesi moroedd mawr, er enghraifft, roedd y QE2 yn cario 1600 o deithwyr - dyma lun ohoni ar ei mordaith olaf yn 2006.

undefined

Y QE2

Gall y llongau newydd, fel hon yn Harbwr Bergen, Norwy, gario dros 2000 o bobl - bron fel pentref ar y môr - ac mae rhai mwy fyth i'w cael. 'Roedd gan y Costa Concordia yn dal 3700 o westeion! Mae gan bob llong gannoedd o gabanau, ferandas a ffenestri; mae gan ambell un barciau dŵr a hyd yn oed llawr sglefrio ia! Mae'r rhain yn dueddol o deithio ar hyd arfordiroedd prydferth dros ben.

undefined

Y Costa Atlantica

Felly, ydy'r holl dwristiaeth yma'n newyddion da i'r mannau maen nhw'n ymweld â nhw, ac i'r blaned?

Melysfannau'r Llongau Mordaith

'Melysfannau' yw'r term y mae Daearyddwyr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio cyrchfannau poblogaidd ar gyfer nifer fawr o deithwyr. Fel arfer, caiff y term ei ddefnyddio i ddisgrifio llefydd bychain, fel canolfan ymwelwyr parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond mae rhai ardaloedd arfordirol rhyngwladol wedi denu miliynau o dwristiaid.

Edrychwch ar y map hwn o'r byd, allwch chi ganfod enwau'r afonydd mwyaf poblogaidd a'r ardaloedd arfordirol / ynysoedd atyniadol?

I ddod o hyd i'r ateb: rowlia dros bob llong i weld beth yw enw'r ardal a'r rheswm dros ymweliadau rheolaidd llongau mordaith.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Felly, sut mae'r diwydiant mordeithiau hyn yn dylanwadu ar y mannau maen nhw'n ymweld â nhw?

Wel, mae 'na newyddion da a newyddion drwg!

Mae gan y diwydiant Mordaith sawl nodwedd dda.

  • Mae'n darparu pecynnau gwyliau hynod lwyddiannus i tua 20 miliwn o bobl bob blwyddyn.

  • Mae'n creu gwaith ac incwm i weithwyr sydd ar fwrdd y llong a'r porthladdoedd maen nhw'n eu defnyddio ledled y byd.

Ond mae llongau mordaith yn cael eu denu i'r ardaloedd mwyaf prydferth a'r rhai sydd hawsaf i'w niweidio hefyd. Mae 'na rai sy'n pryderu am ddiwydiant anecodwristaidd gan ymweld ag ardaloedd ecolegol sensitif.

Dyma rai o'r pryderon sydd wedi codi.

  • Mae gan y llongau mordaith hyn hanes o wneud niwed damweiniol i greigresi cwrel ac arfordiroedd oherwydd gwrthdrawiadau ac angori. Roedd lle bu llongddrylliad y Corta Concordia yn ardal anllygredig gyda chyfoeth i fywyd gwyllt.

  • Ym mis Tachwedd 2007, suddodd dwy long fordaith yn yr Antarctica. Cafodd tunelli o danwydd, hylifau hydraulic, ireidiau, cemegau niweidiol o setiau teledu a sgriniau cyfrifiadur ac ati eu rhyddhau i mewn i ddyfroedd gwarchodedig yr Antarctig.

  • Mae dadansoddwyr yn amcangyfrif bod llong fordaith fel y Queen Mary 2 yn allyrru dwywaith cymaint o CO2 pob milltir teithiwr o'i gymharu ag awyren gyffredin i deithwyr.

undefined

Bergen, Norway

  • Oherwydd natur foethus gwyliau ar long fordaith, mae pob teithiwr ar ei bwrdd yn cynhyrchu oddeutu 3.5kg o sbwriel bob dydd - o'i gymharu â 0.8kg y bobl leol ar y lan. (Ffynhonnell: Our Planet)

  • Mae ymweliadau i ardaloedd o fywyd gwyllt yn rhai cyson iawn a hefyd does dim math o reoleiddio arnynt. Er enghraifft, o fewn un mis (Ionawr) cofnododd tîm archwiliad o'r Scott Polar Research Institute yn Antarctica 14 ymweliad gan chwe llong gyda dros 2000 o deithwyr yn glanio ar un ynys pengwin.

  • Amcangyfrifir bod un llong fordaith yn cynhyrchu 210,000 galwyn o garthion dynol yr wythnos ac 1 miliwn galwyn (40 llond pwll nofio) o ddŵr llwyd (dŵr o sinciau, baddonau, cawodydd, peiriannau golchi a galïau). Mae llongau mordaith hefyd yn cynhyrchu cyfaint mawr o ddŵr olewaidd, sothach, slwj carthffosiaeth, 'sbwriel a gwastraff peryglus. Gallai rheoli'r gwastraff hwn, gyda pheth cost, fod yn amgylcheddol niwtral ond mae cofnodion y diwydiant o'u llygredd 'dŵr llwyd' nhw mewn amgylcheddau hardd yn wael.

  • Mae llongau mordaith yn cymryd dŵr fel balast (pwysau cydbwyso) mewn un man ac yn ei ryddhau'n rhywle arall pan fod angen newid, neu gywiro pwysau'r llong. Mae hyn yn symud pob mathau o blanhigion ac anifeiliaid i leoedd newydd gan greu problemau. Un ohonynt yw rhywogaethau newydd yn meddiannu'r ardal.

  • Mae mordeithiau yn darparu incwm i'r ardaloedd maen nhw'n ymweld â nhw, ond mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd at y morio ac i'r cwmni teithio yn hytrach na'r gyrchfan wyliau.

undefined

Y Costa Concordia

Casgliad

Mae'r diwydiant mordeithio yn dangos ychydig o ymdrech i gynyddu eu heffeithlonrwydd, gostwng lefelau eu llygredd a defnyddio technoleg i reoleiddio gwastraff. Dim ond llongddrylliad fel un y Costa Concordia sydd ei angen i ddangos bod yr amgylchedd dal mewn perygl yn sgil 'damweiniau' - hyd yn oed pan maen nhw ymhlith y mwyaf o ran maint , y rhai dan reolaeth amgylcheddol, ac sy'n llawn offer modern.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Iran yn y Newyddion?

Iran yn y Newyddion?