Mae corwyntoedd, seiclonau, a theiffwnau yn enwau lleol ar stormydd trofannol. Ym Môr yr Iwerydd a’r Caribî maent yn cael eu galw’n gorwyntoedd. Yn China a dwyrain Asia fe’u gelwir yn daiffwnau ac ym Mangladesh a Myanmar fe’u gelwir yn seiclonau. Mae llawer o wyddonwyr yn rhagweld y bydd mwy o stormydd trofannol os yw newid hinsawdd yn cynhesu’r moroedd. Mi fydd y stormydd trofannol hynny yn rhai cryfach hefyd - nid yw’n beth braf i feddwl amdano.
Corwyntoedd, Seiclonau a Thaiffwnau
Mae stormydd trofannol yn ffurfio uwchben moroedd cynnes; mae’r gwres a’r lleithder yn darparu’r ynni sydd ei angen i wneud y storm. Mae tymheredd yr arwyneb fel arfer angen bod dros 26.5°c er mwyn i storm drofannol ddatblygu.
Mae’r gwres arwyneb y môr yn rhoi’r ynni i gynhesu’r aer uwchben. Mae hefyd yn rhoi llawer o anwedd dŵr sy’n cael ei amsugno gan yr aer. Mae’r gwres sy’n cynhesu’r aer yn achosi iddo godi; bydd hyn yn parhau tra bod y dŵr yn aros dros y dŵr cynnes.
Wrth i’r aer godi, mae’n oeri ac mae’r anwedd dŵr yn cyddwyso o’r cymylau. Pan mae’n newid o nwy yn ôl i hylif mae’n rhyddhau’r ynni a amsugnodd pan a anweddodd, yn ôl i’r aer fel gwres. Mae hyn yn golygu bod yr aer yn cael ei ail-gynhesu ac yn codi eto, yn uwch fyth i’r atmosffer.
Tra bod ein storm newydd yn ffurfio dros foroedd cynnes, mae ganddi gyflenwad cyson o wres ac anwedd dŵr – y ddau danwydd sydd ei angen ar y storm i’w throi’n gorwynt. Mesurir cryfder storm ar y raddfa corwynt Saffir-Simpson.
Wrth i’r aer godi mae pwysedd yr aer yn gostwng, yna mae’r aer cyfagos yn brysio mewn i gymryd ei le ac o’r herwydd yn achosi gwyntoedd cryfion. Oherwydd bod y Ddaear yn troi mae’r gwynt yn symud i mewn drwy droelli. Gellir gweld hynny o’r gofod oherwydd ei fod yn gwneud i’r cymylau edrych yn droellog hefyd. Mae’r gwynt yn troi ac yn chwythu o amgylch un pwynt canolog, sef llygaid y storm. Mae’r gwyntoedd mwyaf dinistriol yn agos i’r canol a’r enw a roddir arnynt yw ‘wal y llygaid’.
Ffurfiad Corwynt
Mae’r pwysedd isel yr aer yn golygu bod lefel y môr yn codi oherwydd bod llai o aer yn pwyso lawr ar ei arwyneb; drwy gyfuno hyn gyda thonau uchel oherwydd y gwyntoedd ac fe gawn lefelau môr uchel a elwir yn ymchwydd storm. Yn aml iawn, dyma ran beryclaf y storm drofannol. Y perygl mawr olaf yw’r lefelau uchel o lawr o’r holl gymylau ‘na. Ym aml iawn bydd hynny’n achosi llifogydd a thirlithriadau.
Dyma’r raddfa a ddefnyddir i fesur stormydd trofannol. Dosberthir stormydd i un o bum categori; un yw’r isaf a phump yw’r uchaf. Mae’r gwyddonwyr yn defnyddio cyflymder cyson y gwynt, pwysedd arwyneb yr aer a maint ymchwydd y storm i bennu ym mha gategori mae’r storm.
Categori | Cyflymder Ucha’r Gwynt m.y.a. | Pwysedd Isaf Arwyneb yr Aer | Ymchwydd y Storm m |
1 | 74-96 | 980 | 1.0-1.7 |
2 | 97-111 | 979-965 | 1.8-2.6 |
3 | 112-131 | 964-945 | 2.7-3.8 |
4 | 132-155 | 944-920 | 3.9-5.6 |
5 | 156+ | 920 | 5.7+ |
Effaith pwysau colofn o aer yn gwthio ar wyneb y ddaear yw pwysedd aer. Os yw aer yn disgyn, mae pwysedd yr aer yn uwch na’r hyn ydy o pan fydd aer yn codi. Aer yn symud o ardal gwasgedd uchel i ardal o wasgedd isel yw gwynt.
Erbyn y byddwch chi’n darllen hwn, mae'n debygol y gallai mwy o stormydd trofannol fod wedi digwydd. Mae’r tymor yn parhau tra bod ‘na ddigon o ddŵr cynnes ar wyneb y moroedd. Fel arfer, mae digon ym Môr yr Iwerydd tan yn hwyr ym mis Tachwedd. Rydym wedi cael braw eisoes eleni gyda chorwynt Katia yn bygwth canolbwynt masnachu pwysica’r byd - Efrog Newydd. Roedd rhaid gwagio ardaloedd mawr o’r ddinas ac fe’i caewyd rhag ofn i ymchwydd y storm daro’r ddinas ac achosi argyfwng byd-eang.
Corwynt Katia
Er bod stormydd yr Iwerydd wastad i weld yn y penawdau mae llawer mwy o daiffwnau yn taro Gorllewin y Môr Tawel. Mae’r Phillipines yn cael ei tharo tua 20 neu fwy o weithiau’r flwyddyn. Fodd bynnag y stormydd peryclaf yw’r seiclonau sy’n taro Bangladesh a Myanmar. Mae hyn oherwydd bod tir y ddwy ardal yn isel iawn felly mae ymchwydd storm yn gallu gwthio ymhell i mewn i’r tir gan foddi degau o filoedd o bobl o bosibl.
Chwiliwch am stormydd diweddar, fel Corwynt Katia a’r Teiffwn Roke. Cymharwch eu heffaith gyda stormydd diweddar eraill fel Corwynt Katrina a Seiclon Nargis. Dyluniwch bapur newydd neu gyflwyniad PowerPoint ar gyfer adroddiad newyddion er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon y stormydd hyn a pham eu bod nhw’n fwy cyson ac yn gryfach yn sgil newid hinsawdd.