12

Ynni yng Nghymru

Cymru – Dyfodol Amgen

Nid oes angen athrylith i weld na allwn ni barhau i losgi tanwydd ffosil i greu ynni. Rydym yn cael y rhan fwyaf o’n trydan drwy losgi glo a nwyon naturiol mewn gorsafoedd pŵer thermal. Mae’r rhan fwyaf o’n dulliau teithio yn cael eu pweru drwy losgi petrol neu ddisel sydd wedi eu gwneud o olew. Mae olewau a nwyon yn mynd yn brin ac wrth i’r cyflenwad sy’ ar gael gostwng a’r galw amdano mewn byd datblygedig gynyddu; mae ei bris yn mynd rhy ddrud. Mae tanwydd ffosil hefyd yn achosi problemau amgylcheddol hefyd, fel newid hinsawdd a glaw asid.

undefined

Gorsafoedd Pŵer Thermal yng Nghymru

Fodd bynnag, mae ‘na ffynonellau ynni amgen ar gael ac yng Nghymru rydym yn ffodus i gael y ddaearyddiaeth orau ar gyfer newid i’r dulliau amgen hyn. Yn ogystal â gallu darparu’r holl anghenion ynni sydd eu hangen arnom gallwn hefyd wneud ffortiwn yn ei werthu i bobl eraill nad ydynt mor ffodus â ni.

Pŵer Llanw

O ystyried ei harwynebedd; mae gan Gymru arfordir hirfaith a rhai o’r llanwau mwyaf pwerus yn y byd. Gellir darogan llanwau mwy na heb i’r dim ac felly maen nhw’n ffynhonnell egni amgen ddibynadwy iawn. Mae Moryd Hafren yn Ne Cymru yn un o’r adnoddau ynni llanw mwyaf yn y byd. Amcangyfrifwyd y gallai argae enfawr ddarparu 5% o drydan y DU - mae 5% o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru! Fodd bynnag, mae sawl problem i’w chael; mi fyddai’n costio dros £25 biliwn i’w adeiladu, mi fyddai’n dinistrio cynefin naturiol y Foryd a phetai’n defnyddio’r un dechnoleg â morydiau eraill ni fyddai’n cynhyrchu pŵer heblaw am pan fod lefelau’r dŵr ar yr ochr forol yn llawer is na’r lefelau ar yr ochr dirol.

undefined

Yr Argae arfaethedig

Mi fyddai adeiladu lagwnau llanw yn dechnoleg newydd fodd bynnag - cynhaliodd Cyfeillion y Ddaear Cymru astudiaeth oedd yn dangos pe byddai lagwnau triphlyg yn cael eu hadeiladu dros 25% o’r foryd y byddai modd iddynt gynhyrchu cymaint o ynni â’r syniad cychwynnol am argae. Mae dŵr yn symud oherwydd disgyrchiant unai rhwng gwahanol lagwnau neu rhwng ochr allanol y foryd a’r lagwnau. Drwy wneud hyn, maen nhw’n cynhyrchu llai o drydan ond maen nhw’n ei gynhyrchu’n gyson - 24 awr y dydd. Byddai’n ffynhonnell ynni amgen sy’n gwbl ddibynadwy ac ar ben hynny mi fyddai’n llawer rhatach nag adeiladu argae.

Gallen ni hefyd osod generaduron llanw llai, tebyg i’r rhain gan Lunar Energy, o amgylch ein harfordir a fyddai’n cynhyrchu trydan am 20 awr bob dydd. Drwy osod y rhain mewn gwahanol ardaloedd o amgylch yr arfordir gallan nhw gynhyrchu trydan ar wahanol adegau gan sicrhau cyflenwad dibynadwy. Hefyd, mae ‘na sawl lleoliad megis Ynys y Moelrhoniaid yn Ynys Môn a ‘The Bitches’ oddi ar arfordir Gorllewin Cymru a allai gynhyrchu ynni p eneraduron ffrwd llan SeaGen . Felly, gallai Cymru fod yn hunan gynhaliol yn defnyddio pŵer llanw yn unig.

Hefyd, gallai tonau ddarparu cyflenwad mawr o bwer - ceisiwch chwilio am wybodaeth am PELAMIS, LIMPET neu Voith Generators. Ar hyn o bryd mae technoleg PELAMIS yn arwain y gad o ran harnais pŵer tonnau.

Llanw

Ar yr arfordir, mae’r môr yn edrych fel ei fod yn dod i mewn ac allan ddwywaith y dydd. Mae’r symudiad enfawr yma o ddŵr yn cael ei chosi gan dyniad disgyrchol y lleuad a’r haul. Caiff y dŵr ei dynnu gan ddisgyrchiant y ddau beth yma gan greu ardaloedd o lefelau môr uchel ac isel oddi mewn i’r moroedd. Drwy gyfuno hyn gyda’r ddaear yn troi, y canlyniad a gawn yw’r tonnau sy’n fetrau o ran uchder ac weithiau yn gilometrau o hyd yn cylchdroi o amgylch y môr a basnau’r môr fel Môr yr Iwerydd neu Fôr Iwerddon. Llanw isel yw pant y don a llanw uchel yw brig y don. Wrth i frig y don gyrraedd rhan o’r arfordir daw’r llanw i mewn ac ar ôl iddi basio mae’r llanw’n mynd allan. Fel arfer, mae hyn yn cymryd tuw chwe awr i fynd allan ac felly mae dau lanw bob dydd. Er hynny, mae’r llanwau yn hwyrach bob dydd, dim ond o ryw awr, ac felly mae amser llanw isel a llanw uchel yn newid.

Mae gan Gymru hefyd botensial mawr ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt. Mae Cymru mewn rhan wyntog iawn o’r byd ac yn y rhan honno mae ‘na ddau amgychledd sy’n cael mwy na’u siâr o’r gwynt, sef - Y Gorllewin yn wynebu’r arfordir a’r mynyddoedd. Mae Cymru fwy na lai wedi’i gwneud o’r rhan fwyaf o'r rhain ac mae ganddi felly, gan eithrio Yr Alban, y potensial mwyaf yn Ewrop o ran ynni gwynt. Hyd yn hyn, mae’r datblygiadau wedi bod ar y mynyddoedd yn fwy na dim ond mae mwy a mwy yn cael eu hadeiladu alltraeth. Eto fyth, mae gan Gymru’r potensial i ddarparu ein holl ynni ond beth sy’n digwydd os nad yw’r gwynt yn chwythu? Edrychwch ar ‘Gwyddoniaeth yn y Newyddion’ i weld sut y gellir storio trydan.

Ewch i Gwyddoniaeth yn y Newyddion i ddarllen mwy

 

 

Biodanwydd

Gellir defnyddio unrhyw beth oedd yn fyw yn ddiweddar fel biodanwydd; mae pren yn ffynhonnell amlwg. Tra maen nhw’n tyfu mae pethau byw yn defnyddio CO2 o’r aer (unai’n uniongyrchol fel planhigion neu’n anuniongyrchol pan fydd planhigion neu anifeiliaid yn cael eu bwyta). Yr unig ffordd mae’n cael ei roi yn ôl yw fel Methan pan fydd o’n pydru neu fel CO2 pan gaiff ei losgi. Am nad oes 'na gynnydd yn lefelau’r CO2 gellir galw’r tanwydd yma yn garbon niwtral. Mae gan Gymru lawer o goedwigoedd a gellir sychu llawer o’r gwastraff canghennau a gwreiddiau a’u defnyddio yn lle glo mewn pwerdai. Mae sawl cynllun Ynni-gan-Wastraff yn weithredol yn cynnwys un yng Nghaerdydd ac un arall ger Merthyr Tydfil - ar y cyfan mae’r rhain yn garbon niwtral ar yr amod nad yw deunyddiau ailgylchadwy fel plastigion sydd wedi’u gwneud o olew yn cael eu llosgi.

Ond, beth fydd yn gweld twf yn y dyfodol yw bionwy; gall dreulwyr anaerobig droi unrhyw ddeunydd organig megis gwastraff bwyd, gwastraff amaethyddol a hyd yn oed, garthffosiaeth ddynol mewn i fionwy defnyddiol ar gyfer cynhyrchu trydan yn lle nwy naturiol, gellir hyd yn oed gael ei ddefnyddio yn ein cartrefi. Gall hyd yn oed gael ei droi’n hylif fel bod ceir sy’n rhedeg ar LPG yn gallu ei ddefnyddio fel tanwydd - mae sawl cwmni dŵr yn Lloegr yn pweru eu ceir yn defnyddio nwy o garthffosiaeth ddynol - car yn rhedeg ar bw? Beth nesaf?!

Mae defnyddio cnydau allai gael eu defnyddio fel bwyd fel tanwydd yn amhoblogaidd mewn byd lle mae miliynau yn llwgu bob dydd ond mi ellir gwneud biodiesel a bioethanol o gansen siwgr neu olew blodyn haul.

 

 

Pŵer Hydro Drydanol – P.H.D.

Y cyfan sydd ei angen i wneud trydan gyda dŵr sy’n llifo’n gyflym yw afonydd cyflym mewn cymoedd serth; neu mewn geiriau eraill, glaw a mynyddoedd sef Cymru. Eto, mae gan fynyddoedd Cymru, yn y de, y canolbarth ac yn enwedig yn y Gogledd botensial enfawr i ddatblygu P.H.D. Mewn amgylchedd sy’n llawn ynni adnewyddadwy mae P.H.D. yn hanfodol oherwydd ei fod yn ymddwyn fel storfa drydan sy’n gallu cael ei gynau a ‘i ddifodd yn hawdd iawn. Defnyddi’r storfa bwmpio i ddefnyddio trydan sy’n weddill o bethau fel ffermydd gwynt i bwmpio dŵr i fyny’r mynyddoedd fel y gellir ei ddefnyddio pan fo angen. Dinorwig, yng Ngogledd Cymru yw un o’r enghreifftiau gorau o hyn ond mae sawl person yn gwrthwynebu boddi’n tirffurfiau hardd gyda chronfeydd dŵr.

 

 

Pŵer Solar

Efallai eich bod chi’n meddwl “Dydyn ni ddim yn cael digon o haul yng Nghymru i ddefnyddio pŵer solar” ond mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn gallu gwneud trydan yn uniongyrchol o gelloedd ffotofoltig neu allu cynhesu dŵr i 70 gradd hyd yn oed ar ddiwrnod dwl yng Nghymru ynghanol y gaeaf.

Mae’r fferm paneli solar yma, werth £13.4 miliwn, nawr yn weithredol yn Sir Fynwy. Mae’r fferm solar, sy’n cynnwys 22,500 o baneli, wedi’i hadeiladu ar safle 32 acer o hyd, dros bedwar cae yn Llancaio ger Brynbuga. Bydd y fferm yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 2,500 o gartrefi, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. O’i gymharu â thanwydd ffosil, mi fydd yn arbed o leiaf 60,000 tunnell o allyriadau CO2 dros 25 mlynedd.

Felly beth fydd yn rhoi pŵer i ni yn y dyfodol?

Gobeithio y byddwn ni’n symud tuag at economi isel o ran carbon yma yng Nghymru ac y byddwn ni’n allforio’r holl drydan glân, bendigedig yna i’n cymdogion ac yn gwneud llawer iawn o arian yn sgil hynny - does dim rhyfedd bod y Llywodraeth Gymreig wedi gwneud cais i wneud materion cynhyrchu ynni yn ddatganoledig oddi wrth San Steffan. Mae’n debyg mai tynged Cymru yw troi’n un o brif gyflenwyr ynni gwyrdd hyd yn oed heb y cais am bwerdy niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn.

Darganfyddwch faint yn union ‘rydych chi wedi’i ddysgu yn y rhifyn hwn drwy roi tro ar ein cwis ni!

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd

Ysgrifennwch lythyr at y Cynulliad yn mynegi eich barn am gyflenwad ynni yng Nghymru. Defnyddiwch y daflen waith i’ch helpu chi strwythuro’ch llythyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ynys Môn: Ynys Ynni

Ynys Môn: Ynys Ynni