12

Ynys Môn: Ynys Ynni

Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon mae yna un cwmni rhyngwladol sy’n bwriadu dinistrio’r ffordd y caiff ynni solar ei ddefnyddio’n fyd-eang. Yr enw ar hyn yw technoleg aflonydd a disgwylir iddo roi terfyn ar yr holl dechnoleg solar sydd ar doeon ledled byd.

undefined

Technoleg solar wedi'i osod ar y to

Felly, yn lle mae disgwyl i’r byd newydd yma ddechrau? Wel, goeliwch chi mai ym Mochdre, ger Llandudno yng Ngogledd Cymru?! Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae chwyldro tawel wedi bod yn berwi yng Ngogledd Cymru a dros y ddegawd nesaf bydd canlyniad hynny i’w weld wrth i Gymru ddod yn ganolfan ar gyfer technoleg garbon isel, amgen a hynny yn enwedig yn Ynys Môn.

Rhaid canu clodydd llywodraeth leol Ynys Môn, yr hen Gynulliad Cymraeg a Llywodraeth newydd Cymru am eu gwaith i wireddu’r prosiect hwn. Bu rhaid brwydro’n galed yn erbyn gwledydd di-ri am y 1000-2000 o swyddi fydd yn dod i Fochdre; felly sut lwyddon ni i’w cael nhw?

undefined

Ynys Môn

Lansiodd Cyngor Sir Ynys Môn eu Cynllun Ynys Ynni ym Mehefin 2010 gyda chymorth y Llywodraeth Gymreig. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddod â swyddi da sy’n gofyn am sgil i’r ardal gan sefydlu “canolfan rhagoriaeth fyd enwog”. Bydd Ynys Môn yn denu mwy o arian a buddsoddi i’r ardal drwy fod yn begwn twf sy’n datblygu’n sydyn yn y sector ynni amgen.

Pam Ynys Môn?

Mae gan Ynys Môn sawl mantais ddaearyddol ffisegol a dynol.

  • Mae ganddi lanw pwerus sy’n cael eu dal mewn culfor penodol yn aml iawn

  • Mae hi’n ardal wyntog iawn

  • Mae ganddi weithlu niwclear profiadol yn Wylfa

  • Mae eisoes ganddi gysylltiad mawr gyda’r Grid Cenedlaethol trydanol

  • Mae ganddi borthladdoedd/harbwrs ardderchog

  • Mae eisoes ganddi lawer o amaethyddiaeth bugeiliol

  • Mae ganddi lywodraeth leol a chenedlaethol sy’n awyddus i weld yr ardal yn cyrraedd ei llawn botensial.

Yn osgytal â chyhoeddi’r busnes newydd mae’r llywodraeth leol a chenedlaethol wedi ategu a chefnogi’r datblygiad yn ariannol – bydd y safle newydd ym Mochdre yn derbyn grant Llywodraeth Cymru o dros £3 miliwn. Mae’r cyngor hefyd wedi cynyddu’r cyfleon am hyfforddiant a chwblhawyd canolfan ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ym mis Gorffennaf 2011. Wedi’i lleoli ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, mae’r ganolfan yn ymgorffori’r diweddaraf o ran cynhesu wedi darddu yn y ddaear, paneli solar, cynaeafu glaw, ynysu/insiwleiddio, a goleuo gan fonitro defnydd ynni hi ei hun yn gyson. Bydd y ganolfan ynni newydd yn darparu hyfforddiant ac adnoddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer pobl fydd yn gweithio yn y sector ynni.

 

Mae pegwn twf yn strategaeth sy’n cael ei defnyddio’n aml ar gyfer cynyddu lefelau cyfoeth a datblygiad economaidd mewn ardaloedd fel Cymru. Y cysyniad yw, buddsoddi llawer iawn o arian mewn ardal eithaf bychan megis Ynys Môn; mae hyn yn caniatáu i’r ardal ddatblygu’r sgiliau a’r rhwydwaith mewnol angenrheidiol cyn gynted a bod modd. Daw hyn a llawer iawn mwy o fuddsoddi a chyfoeth a fydd yn dechrau lledaenu i ardaloedd cyfagos fel Gogledd Orllewin Cymru ac yn y pen draw, drwy Gymru gyfan.

Yr her fwyaf sy’n wynebu Cymru a’r byd datblygedig yw sut i newid i dechnolegau ynni newydd. Mae hi’n her, ond hefyd yn gyfle, un mae Cymru eisiau cymryd yr awenau arni ac arwain y byd yn y maes gydag Ynys Môn yn ganolbwynt - Yr Ynys Ynni.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd

Defnyddiwch y gwahanol leoliadau sydd ar eich map er mwyn anodi’r gwahanol ffynonellau ynni sy’n cael eu datblygu yn Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru. Edrychych am fwy o wybodaeth ar y we ac yna’i ychwanegu i’ch map.

Lawrlwytho map

Top

Mwy o’r rhifyn yma...