Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon mae yna un cwmni rhyngwladol sy’n bwriadu dinistrio’r ffordd y caiff ynni solar ei ddefnyddio’n fyd-eang. Yr enw ar hyn yw technoleg aflonydd a disgwylir iddo roi terfyn ar yr holl dechnoleg solar sydd ar doeon ledled byd.
Technoleg solar wedi'i osod ar y to
Felly, yn lle mae disgwyl i’r byd newydd yma ddechrau? Wel, goeliwch chi mai ym Mochdre, ger Llandudno yng Ngogledd Cymru?! Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae chwyldro tawel wedi bod yn berwi yng Ngogledd Cymru a dros y ddegawd nesaf bydd canlyniad hynny i’w weld wrth i Gymru ddod yn ganolfan ar gyfer technoleg garbon isel, amgen a hynny yn enwedig yn Ynys Môn.
Rhaid canu clodydd llywodraeth leol Ynys Môn, yr hen Gynulliad Cymraeg a Llywodraeth newydd Cymru am eu gwaith i wireddu’r prosiect hwn. Bu rhaid brwydro’n galed yn erbyn gwledydd di-ri am y 1000-2000 o swyddi fydd yn dod i Fochdre; felly sut lwyddon ni i’w cael nhw?
Ynys Môn
Lansiodd Cyngor Sir Ynys Môn eu Cynllun Ynys Ynni ym Mehefin 2010 gyda chymorth y Llywodraeth Gymreig. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddod â swyddi da sy’n gofyn am sgil i’r ardal gan sefydlu “canolfan rhagoriaeth fyd enwog”. Bydd Ynys Môn yn denu mwy o arian a buddsoddi i’r ardal drwy fod yn begwn twf sy’n datblygu’n sydyn yn y sector ynni amgen.
Mae gan Ynys Môn sawl mantais ddaearyddol ffisegol a dynol.
Mae ganddi lanw pwerus sy’n cael eu dal mewn culfor penodol yn aml iawn
Mae hi’n ardal wyntog iawn
Mae ganddi weithlu niwclear profiadol yn Wylfa
Mae eisoes ganddi gysylltiad mawr gyda’r Grid Cenedlaethol trydanol
Mae ganddi borthladdoedd/harbwrs ardderchog
Mae eisoes ganddi lawer o amaethyddiaeth bugeiliol
Mae ganddi lywodraeth leol a chenedlaethol sy’n awyddus i weld yr ardal yn cyrraedd ei llawn botensial.
Yn osgytal â chyhoeddi’r busnes newydd mae’r llywodraeth leol a chenedlaethol wedi ategu a chefnogi’r datblygiad yn ariannol – bydd y safle newydd ym Mochdre yn derbyn grant Llywodraeth Cymru o dros £3 miliwn. Mae’r cyngor hefyd wedi cynyddu’r cyfleon am hyfforddiant a chwblhawyd canolfan ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ym mis Gorffennaf 2011. Wedi’i lleoli ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, mae’r ganolfan yn ymgorffori’r diweddaraf o ran cynhesu wedi darddu yn y ddaear, paneli solar, cynaeafu glaw, ynysu/insiwleiddio, a goleuo gan fonitro defnydd ynni hi ei hun yn gyson. Bydd y ganolfan ynni newydd yn darparu hyfforddiant ac adnoddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer pobl fydd yn gweithio yn y sector ynni.
Mae pegwn twf yn strategaeth sy’n cael ei defnyddio’n aml ar gyfer cynyddu lefelau cyfoeth a datblygiad economaidd mewn ardaloedd fel Cymru. Y cysyniad yw, buddsoddi llawer iawn o arian mewn ardal eithaf bychan megis Ynys Môn; mae hyn yn caniatáu i’r ardal ddatblygu’r sgiliau a’r rhwydwaith mewnol angenrheidiol cyn gynted a bod modd. Daw hyn a llawer iawn mwy o fuddsoddi a chyfoeth a fydd yn dechrau lledaenu i ardaloedd cyfagos fel Gogledd Orllewin Cymru ac yn y pen draw, drwy Gymru gyfan.
Yr her fwyaf sy’n wynebu Cymru a’r byd datblygedig yw sut i newid i dechnolegau ynni newydd. Mae hi’n her, ond hefyd yn gyfle, un mae Cymru eisiau cymryd yr awenau arni ac arwain y byd yn y maes gydag Ynys Môn yn ganolbwynt - Yr Ynys Ynni.
Defnyddiwch y gwahanol leoliadau sydd ar eich map er mwyn anodi’r gwahanol ffynonellau ynni sy’n cael eu datblygu yn Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru. Edrychych am fwy o wybodaeth ar y we ac yna’i ychwanegu i’ch map.