Yn y rhan olaf o’r rhifyn hwn, byddwn ni’n ymchwilio i mewn i rai agweddau o newid i’r hinsawdd yng Nghymru drwy ddefnyddio adnoddau o’r Swyddfa Dywydd. Noddir y Swyddfa Dywydd gan y Llywodraeth er mwyn darparu gwybodaeth am y tywydd ac ymchwil hinsoddol, yn union fel y GAChG yn UDA.
Yn yr erthygl hon, rhoddwn arweiniad i chi allu barhau ag ymchwil i mewn i’ch hinsoddau lleol a chenedlaethol.
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Mapiau'r Swyddfa Dywydd
Dewch o hyd i wybodaeth ar gyfer eich gorsaf dywydd leol drwy ddefnyddio’r map tywydd rhyngweithiol o’r Swyddfa Dywydd.
Wrth ddefnyddio offer y map rhyngweithiol, gallwch gymharu sawl agwedd o’r hinsawdd a sut mae’r cyfartaleddau 30 mlynedd wedi newid ers y cyfnod 1961-1990.
Mae’r mapiau isod wedi cael eu creu i ddangos cynhesu yn ystod y Gaeaf yng Nghymru.
Cymedr y Tymereddau Dyddiol Uchaf Mis Ionawr
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Dewiswch ystod o newidion o’r dewislenni.
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Yn ogystal â mapiau, mae’n bosib cael mynediad i’r data ar ffurf dabl.
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Tymheredd Uchaf ˚C | ||||||||||||
Blwyddyn | ION | CHWE | MAW | EBR | MAI | MEH | GOR | AWS | MED | HYD | TACH | RHAG |
1961-1990 | 5.7 | 5.8 | 8 | 10.6 | 14.1 | 17 | 18.6 | 18.4 | 16 | 12.7 | 8.4 | 6.5 |
1981-2010 | 6.4 | 6.6 | 8.9 | 11.4 | 14.7 | 17.3 | 19.4 | 19.1 | 16.5 | 12.8 | 9.1 | 6.7 |
Sylwch sut mae gan nifer o’r misoedd newid o 1°C bron.
Gallwch gael mynediad i ddata hanesyddol Cymru (neu leoedd eraill y DU) er enghraifft graff sy’n dangos cymedr y tymereddau unrhyw dymor neu flwyddyn rhwng 1910-2015.
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Botwm Data Hanesyddol
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0
Can mlynedd yn ôl, roedd tymereddau blynyddol o gwmpas 8-8.3°C, ond yn y blynyddoedd diweddar maen nhw o gwmpas 9.3-9.5°C.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth fanwl iawn ar gyfartaleddau misol sawl gorsaf dywydd.
Botwm Hinsawdd Hanesyddol Fanwl
Detholiad o dair blynedd o ddata o’r dechrau, canol a’r diwedd cymedrau data ar dymereddau misol.
Blwyddyn | ION | CHWE | MAW | EBR | MAI | MEH | GOR | AWS | MED | HYD | TACH | RHAG |
1910 | 3.9 | 5.0 | 5.8 | 6.5 | 10.6 | 13.6 | 13.6 | 13.9 | 12.2 | 10.1 | 4.2 | 6.2 |
1956 | 3.8 | -0.4 | 5.8 | 6.4 | 10.5 | 12.1 | 14.5 | 12.6 | 13.4 | 9.0 | 6.0 | 5.6 |
2014 | 5.4 | 5.5 | 6.8 | 9.2 | 11.3 | 14.1 | 16.2 | 14.0 | 14.1 | 11.5 | 7.8 | 5.2 |
Gallech ddangos y wybodaeth hon fel graff llinell fel yr un isod.